bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 12
Romans 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Am hynny yr wyf yn eich annog chwi, frodyr, trwy dosturiaethau Duw, gyflwyno o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, llawn‐foddhâol, i Dduw: hyn yw eich gwasanaeth rhesymmol.
2
Ac na chydymagweddwch â'r byd hwn, eithr trawsffurfier chwi trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y gosodoch i brawf beth yw daioni, a llawn‐foddhâol a pherffaith ewyllys Duw.
3
Canys dywedyd yr wyf, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un sydd yn eich plith, na byddo iddo feddwl am dano ei hun yn uwch nag y dylai feddwl, ond i feddwl yn sobr, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.
4
Canys megys y mae gennym mewn un corph aelodau lawer, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith;
5
felly nyni yn llawer, ydym un corph yng Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd.
6
A chan fod gennym ddoniau gwahanol yn ol y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai prophwydoliaeth, prophwydwn yn ol cyfartaledd ein ffydd;
7
ai gweinidogaeth, byddwn ffyddlon yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn dysgu, yn y ddysgeidiaeth;
8
neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cynghor; neu yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed gyda haelionusrwydd; yr hwn sydd yn llywyddu, gydag eiddgarwch; yr hwn sydd yn trugarhau, gyda sirioldeb.
9
Bydded cariad yn ddiragrith. Ffieiddiwch y drwg; glynwch wrth y da.
10
Mewn cariad brawdol, meithrinwch serch tyner tuag at eich gilydd; mewn dangos parch, yn blaenori ar eich gilydd;
11
nid yn llesg mewn eiddgarwch; yn wresog mewn yspryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd;
12
yn llawenhau mewn gobaith, yn dal i fyny dan orthrymder, yn dyfal‐barhau mewn gweddi;
13
yn cyfrannu i angenrheidiau y saint, yn ymroddi i lettygarwch.
14
Bendithiwch y rhai sydd yn eich erlid; bendithiwch, ac na felldithiwch.
15
Llawenychwch gyda'r rhai sydd yn llawenychu; wylwch gyda'r rhai sydd yn wylo.
16
Byddwch o'r un meddwl tuag at eich gilydd, heb roi eich meddwl ar bethau uchel, ond at dynner chwi at bethau sydd isel. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain.
17
Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Meddyliwch ym mlaenllaw am bethau anrhydeddus yng ngolwg pob dyn.
18
Os yn bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch mewn heddwch â phob dyn.
19
Nac ymddielwch, anwyliaid, eithr rhoddwch le i'r digofaint, canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae y dial, myfi a ad dalaf, medd yr Arglwydd.
20
Eithr os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo i yfed; canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef.
21
Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16