bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 3
Romans 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
1
Pa beth, ynte, yw rhagoriaeth yr Iuddew, neu pa beth yw budd yr enwaediad?
2
Llawer ym mhob modd: yn gyntaf, yn wir, oblegyd ddarfod ymddiried iddynt am oraclau Duw.
3
Oblegyd beth os annghredodd rhai? a wna eu hannghrediniaeth hwy ffyddlondeb Duw yn ddirym?
4
Ddim o gwbl! eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog, megys y mae yn ysgrifenedig: Fel y'th gyfiawnhâer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y'th farner.
5
Eithr os ein hannghyfiawnder ni a ganmol gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? ai annghyfiawn yw Duw yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dull dyn yr wyf yn dywedyd);
6
ddim o gwbl! os felly, pa fodd y barna Duw y byd?
7
Ond os gwirionedd Duw, trwy fy nghelwydd i, a ymhelaethodd i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau hefyd etto fel pechadur?
8
a phaham nad (fel y'n ceblir, ac fel y dywed rhai ein bod yn dywedyd) “Gwnawn ddrwg fel y del ddaioni?” y rhai y mae eu dedfryd yn gyfiawn.
9
Beth gan hynny? a ragorir arnom ni? ddim o gwbl; canys ni a gyhuddasom Iuddewon a Groegiaid hefyd eu bod oll dan bechod;
10
fel y mae yn ysgrifenedig, Nid oes cyfiawn, ddim un;
11
Nid oes neb yn deall, nid oes neb yn ceisio Duw;
12
Gŵyrasant oll, aethant un ac oll yn anfuddiol; nid oes yn gwneyd daioni, nid oes hyd y nod un:
13
Bedd agored yw eu ceg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn aspiaid sydd dan eu gwefusau:
14
Y rhai y mae eu genau yn orlawn o felldith a chwerwedd:
15
Buan yw eu traed i dywallt gwaed;
16
Distryw ac adfyd sydd yn eu ffyrdd;
17
A ffordd tangnefedd nid adwaenasant:
18
Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid.
19
Ond ni a wyddom am ba bethau bynnag y mae y ddeddf yn eu dywedyd, wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn llefaru, fel y cauer pob genau, ac fel yr elo yr holl fyd yn agored i farn Duw:
20
O herwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd ger ei fron ef; canys trwy ddeddf y mae adnabod pechod.
21
Eithr yn awr, ar wahan i ddeddf, y mae cyfiawnder o eiddo Duw wedi ei amlygu, i'r hwn y tystiolaethir gan y ddeddf a'r prophwydi;
22
sef cyfiawnder Duw trwy ffydd Iesu Grist i bawb sydd yn credu: canys nid oes gwahaniaeth;
23
oblegyd pawb a bechasant, ac ydynt yn amddifad o ogoniant Duw,
24
ond yn cael eu cyfiawnhau yn rhad gan ei ras ef trwy y brynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu:
25
yr hwn a osododd Duw allan yn Drugareddfa, trwy ffydd, yn ei waed ef, er arddangosiad o'i gyfiawnder ef, o herwydd ei fynediad heibio i'r pechodau a wnaethpwyd o'r blaen, yn nyoddefgarwch Duw;
26
er arddangosiad o'i gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe ei hun yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd o ffydd Iesu.
27
Pa le gan hynny y mae yr ymffrost? Cauwyd ef allan. Trwy ba fath ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd.
28
Canys yr ydym ni yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, ar wahan oddiwrth weithredoedd deddf.
29
Ai Duw i Iuddewon yn unig yw efe? onid i Genhedloedd hefyd? Ië, i Genhedloedd hefyd,
30
os yn wir un yw Duw, yr hwn a gyfiawnhâ yr enwaediad mewn canlyniad i ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd.
31
A ydym, gan hynny, yn dirymmu deddf trwy ffydd? Ddim o gwbl! eithr yr ydym yn cadarnhau deddf.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16