bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 10
Romans 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
Frodyr, ewyllys da fy nghalon a'm gweddi ar Dduw ar eu rhan yw er eu hiachawdwriaeth;
2
canys yr wyf yn dyst iddynt fod ganddynt sêl dros Dduw, eithr nid yn ol gwybodaeth;
3
canys heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio sefydlu eu heiddo eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.
4
Canys Crist yw diwedd deddf er cyfiawnder i bob un sydd yn credu.
5
Canys y mae Moses yn ysgrifennu mai y dyn a wnel y cyfiawnder sydd o ddeddf a fydd byw trwyddo.
6
Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn, Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef (hynny yw, i ddwyn Crist i waered);
7
neu, Pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hynny yw, i ddwyn Crist i fyny o blith y meirw).
8
Na, pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gair yn agos attat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu;
9
sef, os cyffesi a'th enau yr Iesu yn Arglwydd, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi;
10
canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffesir i iachawdwriaeth;
11
oblegyd dywed yr Ysgrythyr, Pob un sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.
12
Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iuddew a Groegwr; canys yr un yw Arglwydd pawb, yn gyfoethog i bawb sydd yn galw arno:
13
canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.
14
Pa fodd, ynte, y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant? a pha fodd y clywant heb bregethwr?
15
a pha fodd y pregethant onis danfonir hwynt? megys y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu pethau da!
16
Eithr nid ufuddhasant hwy oll i'r efengyl; canys y mae Esaia yn dywedyd [[53:1]], Arglwydd, pwy a gredodd i'n cennadwri?
17
Felly daw ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air Crist.
18
Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Do, yn wir, Eu swn a aeth allan i'r holl ddaear, A'u geiriau hyd derfynau y byd.
19
Eithr meddaf, Ai ni wybu Israel? Moses a ddywed yn gyntaf, Mi a'ch gwnaf yn eiddigus yn erbyn yr hyn nid yw genedl; yn erbyn cenedl anneallus mi a'ch gwnaf yn ddig.
20
Eithr y mae Esaia yn ymhyfhâu ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai na'm ceisient, A gwnaethum fy hun yn eglur i'r rhai nad ymofynant am danaf.
21
Ond wrth Israel y dywed efe, Ar hyd y dydd yr estynais allan fy nwylaw at bobl anufudd a gwrthwynebus.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16