bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 5
Romans 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
Wedi ein cyfiawnhâu gan hynny trwy ffydd, bydded gennym heddwch gyda Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist;
2
trwy yr hwn hefyd yr ydym wedi cael y ddyfodfa [trwy ffydd] i'r gras hwn yn yr hwn yr ydym yn sefyll yn gadarn, a bydded i ni orfoleddu yng ngobaith gogoniant Duw;
3
ac nid hynny yn unig, eithr bydded i ni hefyd orfoleddu yn y gorthrymderau: gan wybod fod gorthrymder yn dadblygu dyoddefgarwch;
4
a dyoddefgarwch, gymmeriad profedig; a chymmeriad profedig, obaith:
5
a'r gobaith ni ddwg gywilydd, am fod cariad Duw wedi ei dywallt allan yn ein calonnau trwy yr Yspryd Glân yr hwn a roddwyd i ni.
6
Canys a nyni etto yn weiniaid, Crist etto mewn pryd a fu farw dros annuwiolion.
7
Oblegyd o'r braidd y bydd neb farw dros ddyn cyfiawn; oblegyd dros y dyn da feallai y beiddiai un hyd y nod farw.
8
Eithr y mae Duw yn llwyr‐brofi ei gariad ei hun tuag attom ni, gan, a nyni etto yn bechaduriaid, i Grist farw drosom.
9
Mwy ynte o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhâu yn ei Waed ef, y'n hachubir trwyddo ef rhag y digofaint.
10
Canys os pan yn elynion y'n cymmodwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer, wedi ein cymmodi, y'n hachubir yn ei fywyd ef;
11
ac nid hynny yn unig, ond hefyd yr ydym yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y derbyniasom y cymmod.
12
Am hynny, megys trwy un dyn y daeth pechod i mewn i'r byd, a marwolaeth trwy bechod, ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, o herwydd i bawb bechu:
13
canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd, ond ni chyfrifir pechod os na fydd deddf:
14
er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses hyd y nod ar y rhai ni phechasant yn ol cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn oedd gysgodlun o'r Hwn oedd i ddyfod.
15
Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu feirw y llawer, mwy o lawer y gor‐ymhelaethodd gras Duw a'r rhodd trwy ras yr un dyn Iesu Grist i'r llawer.
16
Ac nid megys trwy un dyn a bechodd, y mae y rhodd; canys y farn oedd o un i gondemniad, ond y dawn o gamweddau lawer i gyfiawnhâd.
17
Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y caiff y rhai a dderbyniant y gorlawnder o ras ac o rodd cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist.
18
Gan hynny, yn wir, trwy un camwedd, y canlyniad oedd i bob dyn er condemniad, felly hefyd trwy un weithred o gyfiawnder y canlyniad oedd i bob dyn er cyfiawnhâd bywyd.
19
Canys megys trwy anufudd‐dod yr un dyn y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd‐dod yr un y gwnaethpwyd y llawer yn gyfiawn.
20
Ond deddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi y camwedd; ond lle yr amlhâodd pechod, y gor‐ymhelaethodd gras;
21
fel, megys y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd teyrnased gras trwy gyfiawnder i fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16