bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 6
Romans 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
1
Pa beth gan hynny a ddywedwn? A barhawn ni mewn pechod fel y byddo i ras amlhau?
2
Na atto Duw! Nyni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y gallwn fyw etto ynddo?
3
Neu a ydych heb wybod mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu ein bedyddio i'w farwolaeth ef?
4
Cyd‐gladdwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megys y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb bywyd.
5
Canys os ydym wedi ein cyfuno âg ef trwy gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, hefyd ni a fyddwn trwy gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef;
6
gan wybod hyn, fod ein hen ddyn ni wedi ei groeshoelio gydag ef, fel y dirymmid corph pechod, fel na wasanaethom bechod mwyach.
7
Canys y mae yr hwn a fu farw wedi ei ollwng yn rhydd oddiwrth bechod.
8
Ond os buom feirw gyda Christ, yr ydym yn credu hefyd y cawn fyw gydag ef;
9
gan wybod nad yw Crist a gyfodwyd oddiwrth y meirw yn marw mwyach: nid yw marwolaeth yn arglwyddiaethu arno mwyach.
10
Canys y farwolaeth y bu efe farw, i bechod y bu farw unwaith am byth; ond y bywyd y mae yn ei fyw, byw y mae i Dduw.
11
Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, ond yn fywi Dduw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
12
Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corph marwol i ufuddhau o honoch i'w chwantau.
13
Ac na chynnygiwch eich aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod, eithr cynnygiwch eich hunain i Dduw, megys rhai o feirw yn fyw, a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.
14
Canys pechod nid arglwyddiaetha arnoch chwi, oblegyd nid ydych dan ddeddf ond dan ras.
15
Pa beth, gan hynny? a bechwn ni o herwydd nad ydym dan ddeddf eithr dan ras? Na atto Duw!
16
Oni wyddoch chwi mai i'r hwn y cynnygiwch eich hunain yn weision er ufudd‐dod, gweision ydych i'r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai gweision i bechod i farwolaeth, neu gweision ufudd‐dod i gyfiawnder?
17
Ond diolch i Dduw, a chwi oeddech weision pechod ond a ufuddhasoch o'r galon i'r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi;
18
ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, chwi a wnaed yn weision i gyfiawnder.
19
Yn ol dull dynol yr wyf yn dywedyd, oblegyd gwendid eich cnawd chwi; canys fel y cynnygiasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i annghyfraith er annghyfraith; yr un modd yn awr cynnygiwch eich aelodau yn weision cyfiawnder er sancteiddiad.
20
Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych mewn perthynas i gyfiawnder.
21
Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw yn y pethau hynny y mae arnoch yn awr gywilydd o'u plegyd? diwedd y pethau hynny yw marwolaeth.
22
Ond yn awr wedi eich rhyddhâu oddiwrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, mae i chwi eich ffrwyth er sancteiddiad, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol.
23
Canys cyflog pechod yw marwolaeth, eithr dawn Duw yw bywyd tragywyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16