bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 15
Romans 15
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
1
A nyni, y galluog, a ddylem ddwyn gwendidau y rhai analluog, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain.
2
Bydded i bob un o honom ryngu bodd ei gymmydog yn yr hyn sydd dda er adeiladaeth.
3
Canys Crist nis boddhâodd ef ei hun, eithr, fel y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddant di a syrthiasant arnaf fi.
4
Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt, fel trwy amynedd a dyddanwch yr Ysgrythyrau y cawsem obaith.
5
A Duw yr amynedd a'r dyddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ol Crist Iesu,
6
fel yn unfryd o un genau y gogoneddoch Dduw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist.
7
Am hynny derbyniwch eich gilydd, megys ag y derbyniodd Crist chwithau, er gogoniant Duw.
8
Canys yr wyf yn dywedyd i Grist gael ei wneyd yn weinidog yr Enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, er cadarnhâd yr addewidion i'r Tadau,
9
ac fel y byddai i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd, fel y mae yn ysgrifenedig, O achos hyn y canmolaf di ym mhlith y Cenhedloedd, ac i'th enw y canaf.
10
A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl ef.
11
A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodfored yr holl bobloedd ef.
12
A thrachefn y mae Esaia yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu y Cenhedloedd; ynddo ef y gobeithia y Cenhedloedd.
13
Yn awr Duw y gobaith a'ch llanwo â phob llawenydd a thangnefedd yn eich credu, fel y byddoch helaeth mewn gobaith yng ngallu yr Yspryd Glân.
14
Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn coelio am danoch chwi, eich bod chwithau hefyd yn llawn daioni, wedi eich llenwi o bob gwybodaeth, ac hefyd yn abl i gynghori eich gilydd.
15
Ond ysgrifennwyf yn fwy hyf o fesur attoch, fel yn eich adgoffa chwi o herwydd y gras a roddwyd i mi oddiwrth Dduw
16
i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, gan wasanaethu efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio yn yr Yspryd Glân.
17
Y mae gennyf gan hynny fy ymffrost yng Nghrist Iesu o ran y pethau a berthyn i Dduw.
18
Canys ni feiddiaf ddywedyd dim o'r pethau na weithredodd Crist trwof, er ufudd‐dod y Cenhedloedd, mewn gair a gweithred,
19
yng ngallu arwyddion a rhyfeddodau, yng ngallu yr Yspryd Glân; fel ag o Jerusalem a'r wlad o amgylch hyd Illyricum, yr wyf wedi llawn‐bregethu efengyl Crist;
20
ac y mae i mi uchelgais i bregethu yn y modd hyn, nid lle yr enwyd Crist, fel nad adeiladwn ar sail un arall;
21
eithr fel y mae yn ysgrifenedig, I'r rhai ni fynegwyd am dano, hwy a welant, A'r rhai ni chlywsant a ddeallant.
22
Am hynny hefyd y'm lluddiwyd lawer o weithiau i ddyfod attoch chwi;
23
eithr yr awrhon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y parthau hyn, a bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod attoch;
24
pa bryd bynnag yr elwyf i'r Hispaen, — canys gobeithiaf eich gweled wrth fyned heibio, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf, i fesur, wedi cael llawn fwynhâd gyda chwi —
25
eithr yn awr yr wyf yn myned i Jerusalem, gan weini i'r saint;
26
canys rhyngodd bodd i Macedonia ac Achaia wneuthur rhyw gyfraniad i'r tlodion o'r saint sydd yn Jerusalem;
27
canys rhyngodd bodd iddynt, a'u dyledwyr hwy ydynt; canys os yn eu pethau ysprydol hwy y cyfrannogodd y Cenhedloedd, hwythau hefyd ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol.
28
Wedi i mi gan hynny orphen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a äf heibio trwoch chwi i'r Hispaen;
29
a gwn pan ddelwyf attoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist.
30
Yn awr, yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Yspryd, ar gyd‐ymdrech o honoch gyda myfi mewn gweddiau drosof fi at Dduw,
31
fel y'm gwareder oddiwrth y rhai anufudd yn Judea, ac y byddo fy ngwasanaeth, yr hwn sydd i Jerusalem, yn dderbyniol gan y saint:
32
fel y delwyf attoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw, a chyda chwi y caffwyf orphwysdra.
33
A Duw yr heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16