bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 2
Romans 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
O herwydd paham, diesgus wyt, O ddyn, bob un sydd yn barnu, canys yn yr hyn yr wyt yn barnu y llall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu wyt yn gwneuthur yr un pethau.
2
Ac ni a wyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau.
3
Ac a wyt ti yn cyfrif hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thi yn gwneuthur yr un pethau, y diengi di rhag barn Duw?
4
Neu a ddiystyri di olud ei ddaioni a'i oddefgarwch a'i hir‐ymaros, gan fod heb wybod fod rhodd ddaionus Duw yn dy dywys di i edifeirwch?
5
Eithr yn ol dy galedrwydd a'th galon ddiedifeiriol, yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a dadguddiad cyfiawn farn Duw,
6
yr hwn a dâl i bob un yn ol ei weithredoedd:
7
i'r rhai, yn wir, mewn amynedd yn gwneuthur da a geisiant ogoniant, ac anrhydedd ac anllygredigaeth, y bydd bywyd tragwyddol;
8
ond i'r rhai sydd gynhennus ac yn anufuddhau i'r gwirionedd, ond yn ufudd i annghyfiawnder, y bydd digofaint a llid,
9
trallod a chyfyngder ar bob enaid dyn sydd yn gweithredu yr hyn sydd ddrwg, yr Iuddew yn gyntaf, a'r Groegwr hefyd;
10
ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sydd yn gweithredu yr hyn sydd dda, i'r Iuddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd:
11
canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.
12
Canys cynnifer ag a bechasant yn ddiddeddf, yn ddiddeddf hefyd a gyfrgollir; a chynnifer ag a bechasant dan ddeddf, trwy ddeddf a fernir;
13
canys nid gwrandawyr deddf sydd gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr deddf a gyfiawnheir.
14
Canys pan fo Cenhedloedd, y rhai nid oes ganddynt ddeddf, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau y ddeddf, y rhai hyn, heb ddeddf, ydynt ddeddf iddynt eu hunain,
15
yn gyfryw ag sydd yn dangos gwaith y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, eu cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a'u meddyliau, rhyngddynt a hwy eu gilydd, yn cyhuddo neu yn esgusodi,
16
yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ol fy Efengyl i, trwy Iesu Grist.
17
Eithr tydi, os Iuddew y'th gyfenwir, ac ymorphwyso o honot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw;
18
ac yn gwybod ei ewyllys, a chymmeradwyo y pethau rhagorol, wedi dy egwyddori allan o'r ddeddf;
19
ac yn hyderus dy fod dy hun yn arweinydd y deillion, yn oleuni y rhai sydd mewn tywyllwch,
20
yn ddysgyblydd y rhai ffol, yn ddysgawdwr y rhai bychain, a chennyt yn y ddeddf fraslun o wybodaeth a gwirionedd;
21
tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladratter, a ladretti di?
22
yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio yr eilunod, a gyssegr‐yspeili di?
23
yr hwn wyt yn ymffrostio mewn deddf, trwy droseddiad y ddeddf yr wyt yn dianrhydeddu Duw.
24
Canys enw Duw, o'ch plegid chwi, a geblir ym mhlith y Cenhedloedd, megys y mae yn ysgrifenedig.
25
Canys enwaediad yn wir sydd yn lleshâu, os gwnei y ddeddf; eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, y mae dy enwaediad wedi myned yn ddienwaediad.
26
Os y dienwaediad gan hynny a geidw ordeiniadau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad?
27
A'r dienwaediad, yr hwn sydd o naturiaeth, gan gyflawnu y ddeddf, a'th farna di, yr hwn, gyda' th Lythyren a' th Enwaediad, wyt droseddwr deddf.
28
Canys nid yr hwn sydd oddi allan sydd Iuddew, ac nid yr hyn sydd oddi allan yn y cnawd sydd enwaediad.
29
Eithr yr hwn sydd oddi mewn sydd Iuddew, ac enwaediad yw eiddo y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren, clod yr hwn nid yw o ddynion, ond o Dduw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16