bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 4
Romans 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
1
Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein cyndâd ei gael yn ol y cnawd?
2
Canys os Abraham a gyfiawnhâwyd trwy weithredoedd, y mae ganddo fater ymffrost; ond nid mewn perthynas â Duw.
3
Canys beth a ddywed yr ysgrythyr? A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder.
4
Ond i'r hwn sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gyflog o ras ond o ddyled.
5
Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.
6
Megys y mae Dafydd hefyd yn llefaru am ddedwyddiad y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo ar wahan oddiwrth weithredoedd:
7
Gwyn fyd y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, ac y cuddiwyd eu pechodau.
8
Gwyn fyd y gŵr i'r hwn ni chyfrif yr Arglwydd bechod o gwbl.
9
A ddaeth y dedwyddiad hwn ar yr enwaediad, ynte ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd fod ffydd wedi ei chyfrif i Abraham yn gyfiawnder.
10
Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd mewn enwaediad, ynte mewn dienwaediad? Nid mewn enwaediad, ond mewn dienwaediad.
11
Ac efe a dderbyniodd arwydd enwaediad, sêl cyfiawnder y ffydd yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad; fel y byddai yn dâd pawb a'r sydd yn credu, er eu bod mewn dienwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt;
12
ac yn dâd yr enwaediad, nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r rhai hefyd ydynt yn cerdded yn olion ffydd ein tâd Abraham yr hon oedd ganddo mewn dienwaediad.
13
Canys nid trwy ddeddf yr oedd yr Addewid i Abraham neu i'w hâd, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.
14
Canys os y rhai sydd o'r ddeddf yw yr etifeddion, y mae ffydd wedi ei gwneyd yn wag, a'r Addewid yn ddirym;
15
ond y mae y ddeddf yn gweithredu digofaint; ond lle nad oes deddf, nid oes trosedd.
16
Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ol gras, fel y byddai yr Addewid yn sicr i'r holl hâd; nid yn unig i'r hwn sydd o'r ddeddf, ond hefyd i'r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tâd ni oll,
17
(fel y mae yn ysgrifenedig, Mi a'th wneuthum yn dâd Cenhedloedd lawer) gerbron yr hwn y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent;
18
yr hwn tuhwnt i obaith mewn gobaith a gredodd, fel y byddai yn dâd Cenhedloedd lawer, yn ol yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy hâd di.
19
Ac heb fod yn egwan mewn ffydd, efe a ystyriodd ei gorph ei hun eisoes wedi ei farweiddio (ac efe ynghylch can mlwydd oed), a marweidd‐dra bru Sara;
20
ond gyda golwg ar Addewid Duw nid ammheuodd trwy annghrediniaeth, eithr efe a nerthwyd trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw,
21
ac wedi cael sicrwydd hollol ei fod yn alluog i gyflawnu hefyd yr hyn a addawodd;
22
ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23
Eithr nid ysgrifennwyd hyn er ei fwyn ef yn unig, Y cyfrifwyd iddo,
24
eithr er ein mwyn ninnau hefyd, i'r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd o feirw,
25
yr hwn a draddodwyd o achos ein troseddau ni, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16