bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 1
1 Corinthians 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
1
Pawl, a alwyd yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes,
2
at eglwys Dduw y sydd yng Nghorinth, a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyd â phawb sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist ym mhob man, yr eiddynt a’r eiddom.
3
Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
4
Byddaf yn diolch i Dduw bob amser o’ch plegid am y gras gan Dduw a roddwyd i chwi yng Nghrist Iesu,
5
ddarfod eich cyfoethogi ymhob peth ynddo ef, ymhob ymadrodd a phob gwybod,
6
megis y cadarnhawyd yn eich plith y dystiolaeth am y Crist,
7
fel nad ydych chwi ar ôl am un dawn, gan ddisgwyl datguddiad ein Harglwydd Iesu Grist,
8
yr hwn hefyd a’ch cadarnhâ hyd ddiwedd yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu.
9
Ffyddlon yw Duw, y’ch galwyd trwyddo i gymdeithas ei fab ef Iesu Grist ein Harglwydd.
10
Yr wyf yn deisyf arnoch, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd ohonoch yr un peth bawb, ac na bo ymraniadau yn eich plith chwi, ond bod ohonoch wedi eich cyfuno yn yr un meddwl ac yn yr un farn.
11
Canys gwnaethpwyd yn eglur i mi amdanoch, fy mrodyr, gan deulu Chloe, fod ymrysonau yn eich mysg chwi.
12
Dyma fy meddwl, — bod pob un ohonoch yn dywedyd: myfi eiddo Pawl wyf, myfi eiddo Apolos, myfi eiddo Cephas, a minnau eiddo Crist.
13
A aeth Crist yn gyfran i blaid? Ai Pawl a groeshoeliwyd drosoch, neu ai yn enw Pawl y’ch bedyddiwyd?
14
Yr wyf yn diolch na fedyddiais undyn ohonoch ond Crispos a Gaios,
15
rhag dywedyd o neb mai yn fy enw i y’ch bedyddiwyd.
16
Ond, do, mi fedyddiais deulu Stephanas hefyd; heblaw hynny ni wn a fedyddiais neb arall.
17
Canys ni’m hanfonodd Crist i fedyddio ond i bregethu efengyl, a hynny nid mewn doethineb ymadrodd, rhag gwneuthur croes y Crist yn ddiddim.
18
Canys y gair am y groes, i’r rhai sydd ar dranc, ffolineb yw, ond i ni, sydd gadwedig, gallu Duw ydyw.
19
Canys ysgrifenedig yw, Dinistriaf ddoethineb y doethion, a deall y deallus a wrthodaf.
20
Pa le y mae’r doeth? pa le y mae’r ysgrifennydd? pa le y mae’r ymchwiliwr i bethau’r bywyd hwn? oni pharodd Duw annoethi doethineb y byd?
21
Canys yn noethineb Duw, oherwydd nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, y rhyngodd bodd i Dduw trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.
22
Oblegid fel y mae’r Iddewon yn gofyn am arwyddion, felly y mae’r Groegiaid hwythau yn chwilio am ddoethineb.
23
Eithr amdanom ni, pregethu yr ydym Grist a groeshoeliwyd, i Iddewon yn dramgwydd, i genedl-ddynion yn ffolineb,
24
ond i’r galwedigion eu hunain, yn Iddewon ac yn Roegiaid, Crist gallu Duw a doethineb Duw.
25
Canys ffolineb Duw, doethach yw na dynion, a gwendid Duw, cadarnach yw na dynion.
26
Ystyriwch eich galwad, frodyr, nad mynych ynddi ddoethion yn ôl y cnawd, nad mynych alluogion, nad mynych foneddigion.
27
Ond ffôl bethau’r byd a ddetholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r doethion, a gweinion bethau’r byd a ddetholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r cedyrn bethau,
28
a phethau iseldras y byd a’r pethau diystyredig a ddetholodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y dirymai’r pethau sydd,
29
fel nad ymffrostiai un cnawd yng ngŵydd Duw.
30
Ond ohono ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, a wnaethpwyd yn ddoethineb i ni oddiwrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad ac yn brynedigaeth,
31
megis y mae yn ysgrifenedig, a ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16