bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 16
1 Corinthians 16
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Am y casgliad i’r Saint eto, megis y trefnais i Eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau hefyd.
2
Bob cyntaf o’r wythnos, neilltued pob un ohonoch wrth ei law, gan osod mewn trysorfa, ba beth bynnag a ffynnodd ganddo, fel na ohirier y casgliadau hyd oni ddelwyf i.
3
A phan gyrhaeddwyf yna, pwy bynnag a gaffoch yn gymeradwy, y rhai hynny, a chyda hwy lythyrau, a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Gaersalem.
4
Ond os gwiw fydd i minnau hefyd deithio, gyda mi y teithiant.
5
A deuaf atoch chwi wedi tramwy ohonof Facedonia, canys trwy Facedonia y deuaf;
6
nid hwyrach y galwaf heibio i chwi, neu hyd yn oed aeafu, fel y’m hebryngoch chwithau i ba le bynnag yr elwyf.
7
Canys nid yw yn fy mryd eich gweled yn awr ar fy hynt, oherwydd gobeithiaf aros ennyd gyda chwi, os caniatâ’r Arglwydd.
8
Ac yr wyf yn aros yn Ephesos hyd y Sulgwyn.
9
Canys agorwyd drws i mi, un ehang ac effeithiol, — a llawer y gwrthwynebwyr.
10
Ac o daw Timotheos, gofelwch fod ei ymwneuthur â chwi yn ddi-ofn. Canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei wneuthur, megis minnau.
11
Am hynny, na ddiystyrred neb ef; yn hytrach, hebryngwch ef mewn heddwch, fel y dêl ataf i, canys yr wyf yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr.
12
Ac am y brawd Apolos, llawer a erfyniais arno ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr; eithr nid oedd o gwbl yn ei fryd ddyfod yr ennyd hon, ond dyfod a wna pan gaffo amser cyfaddas.
13
Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch.
14
Bydded eich popeth mewn cariad.
15
Ond erfyniaf arnoch, frodyr. Gwyddoch am deulu Stephanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt eu dodi eu hunain at wasanaeth y saint.
16
Byddwch chwithau hefyd ddarostyngedig i’r cyfryw rai, ac i bob un sy’n cydweithio (â ni) ac yn llafurio.
17
Yr wyf yn llawenhau ym mhresenoldeb Stephanas a Ffortunatos ac Achaicos, oblegid cyflawnasant hwy eich diffyg chwi.
18
Canys seibiant a roisant hwy i’m hysbryd ac i’r eiddoch chwithau. Arddelwch, gan hynny, y cyfryw rai.
19
Y mae eglwysi Asia yn eich annerch. Y mae Acwila a Phrisca, gyda’r eglwys sydd yn eu hannedd hwy, yn danfon llawer annerch i chwi yn yr Arglwydd.
20
Y mae’r brodyr oll yn eich annerch. Anherchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.
21
Yr annerch hwn â’m llaw i, Pawl.
22
Od oes neb heb garu’r Arglwydd, bydded Anathema. Maran Atha.
23
Gras yr Arglwydd Iesu gyda chwi.
24
Fy nghariad innau gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16