bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 9
1 Corinthians 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
1
Onid ydwyf yn rhydd? Onid ydwyf apostol? Oni welais Iesu ein Harglwydd ni? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?
2
Os i eraill nid wyf apostol, eto, yn ddiau, i chwi, yr ydwyf. Canys sêl fy apostolaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd.
3
Fy nadl i wrth y rhai sy’n fy marnu yw honyma —
4
onid oes i ni ryddid i fwyta ac yfed?
5
Onid oes i ni ryddid i ddwyn oddiamgylch wraig o chwaer, megis hefyd yr apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Chephas?
6
Neu, ai myfi yn unig, a Barnabas, sydd heb ryddid i beidio â dilyn gorchwyl?
7
Pwy fyth fydd yn rhyfela ar ei draul ei hun? Pwy fydd yn plannu gwinllan ac ni bydd yn bwyta o’i ffrwyth hi? Neu bwy fydd yn bugeilio praidd ac na bydd yn bwyta o laeth y praidd hwnnw?
8
Ai yn ôl dyn y dywedaf y pethau hyn, ynteu? Oni ddywed y ddeddf hefyd felly?
9
Canys yn neddf Moesen fe sgrifennwyd: Na safnrwyma ŷch dyrnu. Ai am ychen y gofala Duw?
10
Ynteu, ai erom ni yn gwbl y dywed? Canys erom ni yr ysgrifennwyd mai mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr yntau mewn gobaith am gyfranogi.
11
Os nyni i chwi a heuodd bethau’r ysbryd, ai mawr o beth os eiddom ni fedi’r eiddoch chwi o bethau’r cnawd?
12
Od yw eraill gyfrannog o’r hawl hon arnoch, onid mwy felly nyni? Eithr nid arferasom yr hawl hon; eithr goddefwn bob peth, fel na roddom un rhwystr i efengyl y Crist.
13
Oni wyddoch chwi fod gwasanaethwyr defodau’r cysegr yn bwyta pethau’r cysegr, a’r rhai sy’n gwasanaethu’r allor yn gyfrannog hefyd â’r allor?
14
Felly, ordeiniodd yr Arglwydd hefyd i’r rhai sy’n cyhoeddi’r efengyl fyw ar yr efengyl.
15
Eithr o’m rhan fy hun, nid arferais i ddim un o’r pethau hyn. Ond nid ysgrifennais y pethau hyn fel y gwnelid felly yn fy achos i, canys dewisach gennyf farw na phe —, fy ymffrost i, ni chaiff neb ei throi’n wegi.
16
Canys o phregethaf yr Efengyl, nid ymffrost i mi hynny. Canys anghenraid sy’n gorwedd arnaf; canys gwae fi oni phregethaf yr efengyl.
17
Canys os o’m dewis yr wyf yn gwneuthur hyn, tâl sydd i mi, eithr onid o’m dewis, gorchwyliaeth a ymddiriedwyd i mi.
18
Pa beth, ynteu, ydyw fy nhâl i? Cael, wrth efengylu, osod yr efengyl yn ddi-gost, fel na cham arferwyf fy hawl yn yr efengyl.
19
Canys, a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, i bawb y’m gwneuthum fy hun yn gaeth, fel yr enillwn y rhan fwyaf.
20
Felly, deuthum i fod i’r Iddewon megis Iddew, fel yr enillwn Iddewon. I’r rhai sy tan ddeddf megis tan ddeddf, er heb fod fy hun tan ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd tan ddeddf.
21
I’r rhai di-ddeddf megis un di-ddeddf, er heb fod yn ddi-ddeddf i Dduw, eithr yn neddf Crist, fel yr enillwn y rhai di-ddeddf.
22
Deuthum i fod i’r rhai gweiniaid yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid. I bawb yr euthum yn bopeth, fel ymhob rhyw fodd y gwaredwn rywrai.
23
Popeth a wnâi er mwyn yr efengyl, fel y gallwyf fod yn gyfrannog ohoni.
24
Oni wyddoch fod y rhai a redo mewn rhedegfa yn rhedeg, yn wir, bawb ohonynt, eithr un sy’n derbyn y wobr? Felly rhedwch fel y caffoch y blaen.
25
Y mae pob un sy’n cystadlu yn arfer hunanlywodraeth ymhob dim, hwynt-hwy, yn wir, fel y derbyniont goron lygradwy, eithr nyni, un anllygradwy.
26
Myfi, gan hynny, felly y rhedaf, sef fel un sydd sicr o’i nod. Felly y byddaf yn dyrnodio, fel un na churo’r awyr.
27
Ond yr wyf yn baeddu fy nghorff fy hun, ac yn ei gaethiwo, rhag, ysgatfydd, wedi i mi gyhoeddi i eraill, fy mod fy hun yn wrthodedig.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16