bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 15
1 Corinthians 15
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
1
Hefyd, frodyr, egluro yr wyf i chwi, — am yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, yr hon hefyd y sefwch ynddi,
2
drwy’r hon hefyd y’ch cedwir, — â pha ymadrodd y pregethais i chwi, o deliwch fyth ar gof, oddieithr credu’n ofer ohonoch.
3
Canys traddodais i chwi yn bennaf peth yr hyn a dderbyniais hefyd, sef farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau,
4
a darfod ei gladdu, a chyfodi ohono ar y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau;
5
a darfod ei weled gan Gephas, yna gan y deuddeg.
6
Yna, gwelwyd ef gan uwchlaw pum cant o frodyr ar unwaith, o’r rhai yr erys y rhan fwyaf hyd yr awr hon, ond fe hunodd rhai.
7
Wedi hynny, fe’i gwelwyd gan Iago, yna gan yr apostolion i gyd.
8
Ac yn ddiwethaf oll, fe’i gwelwyd gennyf innau hefyd, megis gan yr erthyl.
9
Canys y lleiaf o’r apostolion wyf i, nad wyf deilwng i’m galw yn apostol, am ddarfod i mi erlid eglwys Dduw.
10
Ond trwy ras Duw yr ydwyf y peth ydwyf; a’i ras ef tuag ataf i, nid ofer fu, ond yn helaethach na hwynt oll y llafuriais, nid myfi chwaith, ond gras Duw gyda mi.
11
Yna, pa un bynnag ai myfi ai hwynt-hwy, felly y pregethwn ac felly y credasoch.
12
Eto os pregethir Crist, ddarfod ei gyfodi ef oddiwrth feirwon, pa wedd y dywed rhywrai yn eich plith nad oes atgyfodi meirwon?
13
Canys, onid oes atgyfodi meirwon, ychwaith Crist nis cyfodwyd.
14
Ac os Crist nis cyfodwyd, yna, gwegi ein pregethu ni, gwag hefyd eich ffydd chwithau.
15
Fe’n ceffir ninnau hefyd yn dystion gau yn erbyn Duw, canys tystiasom yn erbyn Duw gyfodi ohono’r Crist, ac nis cyfododd, os wedi’r cwbl meirwon nis cyfodir.
16
Canys os meirwon nis cyfodir, yna, ni chyfodwyd Crist ychwaith.
17
Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau.
18
Yna, cyfrgollwyd y rhai hefyd a hunodd yng Nghrist.
19
Os gobeithio yng Nghrist yn y bywyd hwn a wnaethom, a dim ond hynny, truanach na phawb oll ydym.
20
Ond, fel y mae, fe a gyfodwyd Crist oddiwrth feirwon, yn flaenffrwyth y rhai a hunodd.
21
Canys, a bod trwy ddyn farwolaeth, trwy ddyn hefyd atgyfodiad meirwon.
22
Ac megis yn Addaf y mae pawb yn marw, felly hefyd yng Nghrist y bydd bywhau pawb.
23
Ond pob un yn ei reng ei hun, Crist yn flaenffrwyth, yna, eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef;
24
wedi hynny, y diwedd, pan draddodo ef y deyrnas i Dduw a’r Tad, wedi y diddymo ef bob penaduraeth a phob awdurdod a nerth.
25
Canys rhaid teyrnasu ohono hyd oni osodo ei holl elynion tan ei draed.
26
Diwethaf gelyn a ddifodir, yr angau.
27
Canys darostyngodd bob peth tan ei draed ef. Ond pan ddywed [yr Ysgrythur] ddarostwng popeth, eglur mai oddieithr hwnnw a ddarostyngodd iddo ef bopeth.
28
Pan fo darostyngedig iddo bopeth, yna hefyd darostyngir y Mab yntau i’r hwn a ddarostyngodd iddo bopeth, fel y byddo Duw gwbl yng nghwbl.
29
Os amgen, ynteu, pa beth a wnânt hwy, a fedyddir ar ran y meirw? Oni chyfodir y meirw ddim, paham ynteu y bedyddir ar eu rhan hwy?
30
A phaham yr ydym ninnau hefyd mewn perigl bob awr?
31
Beunydd yr wyf yn marw, myn y gorfoledd amdanoch chwi, frodyr, y sydd i mi yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni.
32
Os ar wedd dyn yr ymleddais i â bwystfiledd yn Ephesos, pa les i mi? Oni chyfyd y meirw, bwytawn ac yfwn, canys yfory marw y byddwn.
33
Na chyfeiliornwch — y mae cyfathrach ddrwg yn distrywio cymeriadau da.
34
Ymddadebrwch o ddifrif, ac na phechwch, canys anwybod am Dduw sydd ar rai. Er cywilydd i chwi y llefaraf wrthych fel hyn.
35
Ond fe ddywed rhywun: Pa fodd y cyfyd y meirwon? Ac â pha ryw gorff y deuant?
36
O, ynfyd! Y peth y byddi di yn ei hau, ni fywheir mono oni bydd marw.
37
A’r peth y byddi di yn ei hau, nid y corff a ddyfydd a heui, onid gronyn noeth, ysgatfydd o ŷd neu ryw rawn arall.
38
Ond Duw a rydd iddo gorff fel y mynnodd ef, ac i bob un o’r hadau ei gorff ei hun.
39
Nid unrhyw gnawd pob cnawd, eithr amgen eiddo dynion, ac amgen cnawd anifail, amgen hefyd cnawd adar ac amgen eiddo pysgod.
40
Hefyd cyrff nefol a chyrff daearol; eithr anghyfryw yw gogoniant y rhai nefol, ac anghyfryw hefyd eiddo’r rhai daearol.
41
Amgen gogoniant haul, ac amgen gogoniant lloer, ac amgen gogoniant sêr. Canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.
42
Felly hefyd atgyfodiad y meirwon. Heuir mewn llygredd, cyfodir mewn anllygredigaeth;
43
heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Heuir corff anianol, cyfodir corff ysbrydol.
44
Od oes gorff anianol, y mae hefyd un ysbrydol.
45
Felly ysgrifenedig yw hefyd: Gwnaethpwyd y dyn cyntaf Addaf yn enaid byw, a’r Addaf diwethaf yn ysbryd a bair fywhau.
46
Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol, wedyn yr ysbrydol.
47
Y dyn cyntaf o ddaear, yn briddlyd, yr ail dyn o nef.
48
Megis y priddlyd, cyfryw hefyd y rhai priddlyd; ac megis y mae’r nefol, cyfryw hefyd y nefolion.
49
Ac megis y dygasom arwedd y dyn priddlyd, dygwn hefyd arwedd y dyn nefol.
50
Eithr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, frodyr: na ddichon cnawd a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, nac ychwaith lygredd etifeddu anllygredigaeth.
51
Wele! dirgelwch a fynegaf i chwi: ni hunwn ni oll, ond oll fe’n newidir mewn eiliad, ar darawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf.
52
Canys fe utgenir, a chyfodir y meirwon yn anllygredig, ac fe’n newidir ninnau.
53
Canys rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb.
54
A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y dyfydd y gair a ysgrifennwyd: llyncwyd yr angau mewn buddugoliaeth.
55
Pa le, angau, y mae dy fuddugoliaeth di? Pa le, angau, y mae dy golyn?
56
Canys colyn angau, pechod yw, a grym pechod, y gyfraith yw.
57
Ond i Dduw y diolch, iddo ef y sy’n rhoddi i ni fuddugoliaeth drwy ein Harglwydd ni, Iesu Grist.
58
Am hynny, fy mrodyr anwylion, byddwch sefydlog a diymod a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd bob amser, gan wybod nad ofer mo’ch llafur chwi yn yr Arglwydd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16