bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 6
1 Corinthians 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
1
A faidd neb ohonoch, a chanddo achos yn erbyn arall, ei osod i’w farnu gan yr anghyfiawn yn hytrach na chan y saint?
2
Oni wyddoch mai’r saint sydd i farnu’r byd? Ac os ger eich bron chwi y bernir y byd, a ydych yn anheilwng i farnu’r achosion distadlaf oll?
3
Oni wyddoch y barnwn ni angylion heb sôn am bethau’r bywyd beunyddiol?
4
Am hynny, o bydd gennych achosion yn perthyn i’r bywyd beunyddiol i’w barnu, ai y rhai hollol ddiddim yng ngolwg yr eglwys — ai y rheiny a osodwch yn sedd barn?
5
Er cywilydd i chwi y llefaraf. Onid oes, felly, yn eich plith neb doeth a fydd yn abl i farnu rhwng ei frawd?
6
Eithr y mae brawd yn ymgyfreithio â brawd a hynny ger bron y digred?
7
Y gwir yw mai diffyg ynoch eisoes yn ddiau yw bod gennych gyfraith â’ch gilydd; paham na oddefwch gam yn hytrach? Paham na oddefwch yn hytrach eich ysbeilio?
8
Eithr yr ydych chwi yn gwneuthur cam, ac yn ysbeilio, a hynny â brodyr.
9
Oni wyddoch na bydd i’r anghyfiawn ran yn nheyrnas Dduw? Na’ch camarweinier; ni chaiff rhai anllad nac eilunaddolwyr na thorwyr priodas na rhai meddal-gnawdol na sodomiaid
10
na lladron na chybyddion na meddwon na difenwyr na chribddeilwyr ran yn nheyrnas Dduw.
11
A’r pethau hyn oeddych, rai ohonoch; eithr ymolchasoch, eithr fe’ch sancteiddiwyd, eithr fe’ch gwnaed yn gyfiawn yn enw yr Arglwydd Iesu Grist a thrwy ysbryd ein Duw.
12
Y mae pob peth yn rhydd i mi, ond nid yw pob peth yn lleshau; rhydd yw pob peth i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim.
13
Y bwydydd i’r bola, a’r bola i’r bwydydd, ond diddyma Duw y naill a’r llall. A’r corff, nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd, a’r Arglwydd i’r corff.
14
Ond fe gyfododd Duw yr Arglwydd, ac fe’n cyfyd ninnau hefyd trwy ei nerth ei hun.
15
Oni wyddoch mai aelodau Crist yw’ch cyrff chwi? Felly, a gymeraf i aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw!
16
Oni wyddoch fod y neb a gydio â phutain yn un corff? Canys, medd ef, un cnawd fydd y ddau.
17
Ond y neb a ymgysyllto â’r Arglwydd, un ysbryd yw.
18
Ymogelwch rhag godineb. Pob pechod a wnêl dyn, y tu allan i’r corff y mae, ond y sawl a odinebo, yn erbyn ei gorff ei hun y mae’n pechu.
19
Tybed na wyddoch fod eich corff chwi yn gafell i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd eiddoch gan Dduw, ac nad eiddoch eich hunain mohonoch?
20
Canys er gwerth y’ch prynwyd, felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16