bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 10
1 Corinthians 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, fod ein tadau ni, bawb ohonynt, dan y cwmwl, a myned ohonynt oll drwy’r môr,
2
a’u bedyddio oll i Foesen yn y cwmwl ac yn y môr.
3
Bwytasant, bawb, yr un ymborth ysbrydol,
4
ac yfasant bawb yr un ddiod ysbrydol. Canys yfent o’r graig ysbrydol, a’u dilynai, a’r graig oedd Crist.
5
Eithr yn y rhan fwyaf ohonynt, ni foddlonwyd Duw, canys gwasgarwyd hwynt yn yr anialwch.
6
Digwyddodd y pethau hyn yn enghreifftiau i ni, fel na byddem ni chwenychwyr pethau drwg, megis y chwenychasant hwy.
7
Na byddwch ychwaith eilun-addolwyr, megis rhai ohonynt hwy. Megis y mae’n ysgrifenedig eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed a chodasant i chwarae.
8
Ac na odinebwn megis y godinebodd rhai ohonynt hwy, — ac fe syrthiodd mewn un diwrnod dair mil ar hugain.
9
Ac na themtiwn yr Arglwydd megis y temtiodd rhai ohonynt hwy, a’u dinistrio gan y seirff.
10
Ac na rwgnachwn megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, a’u dinistrio gan law’r dinistrydd.
11
Digwyddai’r pethau hyn iddynt hwy yn null enghraifft, ac fe’u hysgrifennwyd er rhybudd i ni, y daeth arnom derfynau’r oesoedd.
12
Am hynny, a dybio’i fod yn sefyll, edryched na syrthio.
13
Nid ymaflodd ynoch chwi brofedigaeth namyn un ddynol. Ond ffyddlon yw Duw, ac ni ad ef eich profi chwi y tu hwnt i’ch gallu, eithr ynghŷd â’r brofedigaeth, fe rydd y ffordd allan hefyd, modd y galloch ymgynnal odditani.
14
Am hynny, fy rhai annwyl, ffowch rhag eilun-addoliaeth.
15
Megis wrth rai deallus y dywedaf. Bernwch chwithau a fynegaf.
16
Cwpan y fendith, a fendithiwn, onid cyfranogiad yw o waed Crist? Y dorth, a dorrwn, onid cyfranogiad o gorff Crist ydyw?
17
Canys un dorth, un corff ydym ni sy’n llawer. Canys pawb ohonom, o’r un dorth y cyfranogwn.
18
Ystyriwch Israel yn ôl y cnawd. Onid yw’r rhai sy’n bwyta’r aberthau yn gyd-gyfrannog â’r allor?
19
Beth, gan hynny, yw fy meddwl? — Bod aberth eilun yn rhywbeth? Ai bod eilun yn rhywbeth?
20
Eithr a aberthant, mai i ddaimoniaid ac nid i Dduw yr aberthant. Ni fynnwn fod ohonoch yn gyfranogion â daimoniaid.
21
Ni ellwch yfed cwpan yr Arglwydd a chwpan daimoniaid. Ni ellwch gyfranogi o fwrdd yr Arglwydd ac o fwrdd daimoniaid.
22
Neu a gyffrown ni eiddigedd yr Arglwydd? Ai trech nag ef ydym ni?
23
Y mae popeth yn gyfreithlon, ond nid yw popeth yn fuddiol. Y mae popeth yn gyfreithlon, ond nid yw popeth yn adeiladu.
24
Na cheisied neb yr eiddo ef ei hun, eithr yr eiddo arall.
25
Popeth a werthir yn y farchnad gig, bwytewch heb holi dim o ran cydwybod.
26
Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear a’i chyflawnder hi.
27
Os rhywun o blith y digred a’ch gwahodda, a chwithau’n dewis myned, popeth a osoder ger eich bron, bwytewch, heb holi dim o ran cydwybod.
28
Ond os dywed rhywun wrthych: Aberth y cysegr yw hwn, na fwytewch, er mwyn hwnnw a alwodd sylw ac o ran cydwybod.
29
Nid cydwybod un ei hun yr wyf yn ei feddwl, ond cydwybod y llall. Paham, atolwg, y bernir fy rhyddid i gan gydwybod arall?
30
Od wyf i drwy ras yn cyfranogi, paham y’m melltithir i oherwydd y peth yr wyf yn talu diolch erddo?
31
Am hynny, ai bwyta ai yfed, ai unpeth, a wneloch, gwnewch bopeth er gogoniant i Dduw.
32
Byddwch ddi-dramgwydd i Iddewon ac i Roegiaid, ac i eglwys Dduw,
33
megis yr wyf innau hefyd yn rhyngu bodd i bawb ym mhob dim, heb geisio fy lles fy hun, eithr lles y lliaws fel y byddont gadwedig.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16