bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 11
1 Corinthians 11
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
Byddwch efelychwyr i mi, megis yr wyf innau hefyd i Grist.
2
Yr wyf yn eich canmol chwi oblegid eich bod yn cofio amdanaf ym mhob dim, ac yn dal at y traddodiadau megis y traddodais i chwi.
3
Mynnwn i chwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, a phen gwraig yw ei gŵr, a phen Crist yw Duw.
4
Pob gŵr a weddïo neu a broffwydo â chanddo rywbeth am ei ben, y mae’n bwrw anfri ar ei ben.
5
A phob gwraig a weddïo neu a broffwydo a’i phen yn ddiorchudd, y mae’n bwrw anfri ar ei phen hithau. Canys un ydyw ac unfath â’r eilliedig.
6
Canys os gwraig ni ddwg orchudd, cneifier hithau hefyd. Gwarthus i wraig yw torri ei gwallt neu eillio ei phen. Gwisged orchudd.
7
Canys gŵr ni ddylai fod a’i ben tan orchudd, ac yntau’n ddelw a gogoniant Duw.
8
Ond y wraig, gogoniant ei gŵr ydyw. Canys nid yw gŵr o wraig, eithr gwraig o ŵr.
9
Ac eto, ni chrewyd gŵr er mwyn y wraig, eithr gwraig er mwyn y gŵr.
10
Am hyn, dylai fod gan wraig awdurdod ar ei phen oblegid yr angylion.
11
Ond yn unig nid gwraig heb ŵr na gŵr heb wraig yn yr Arglwydd.
12
Canys megis y mae’r wraig o’r gŵr, felly y gŵr hefyd drwy’r wraig. A’r cwbl o Dduw.
13
Bernwch ynoch eich hunain, Ai gweddus ydyw i wraig heb orchudd weddïo ar Dduw?
14
Onid ydyw natur ei hun yn eich dysgu mai anglod yw i ddyn o bydd ganddo wallt hir,
15
ond mai addurn ydyw i wraig o bydd ganddi wallt hir? Canys rhoddwyd y gwallt megis llen iddi.
16
Ond os mynn neb fod yn gecrus, i ni nid oes y cyfryw arfer, nac i eglwysi Duw ychwaith.
17
Ond dyma beth, a mi’n gorchymyn, nad wyf yn ei ganmol, sef nad er gwell ond er gwaeth yr ydych yn dyfod ynghŷd.
18
Canys yn gyntaf oll, pan ddeloch ynghŷd mewn cynulleidfa, clywaf fod pleidiau yn eich plith, a chredu’r wyf fod peth gwir yn yr ystori.
19
Canys rhaid yn wir fod yn eich plith heresïau, fel y dêl y rhai cymeradwy i’r amlwg yn eich plith.
20
Am hynny, pan ddeloch ynghŷd, i’r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd mo hynny.
21
Canys y mae pob un yn achub y blaen i fwyta’i swper ei hun, ac y mae’r naill ar ei gythlwng a’r llall yn feddw.
22
Tybed nad oes i chwi dai, ynteu, er mwyn bwyta ac yfed? Neu ai dirmygu Eglwys Dduw yr ydych, a bwrw anfri ar y rhai sydd heb ddim? Pa beth a ddywedaf wrthych? Ai eich canmol a wnâf? Yn hyn o beth ni’ch canmolaf.
23
Canys fe dderbyniais i oddiwrth yr Arglwydd yr hyn a draddodais hefyd i chwi, sef ddarfod i’r Arglwydd Iesu, y nos yr oeddid yn ei draddodi, gymryd torth,
24
ac wedi diolch, ei thorri, a dywedyd: Dyma fy nghorff, y sydd eroch chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf i.
25
Yr un modd, y cwpan hefyd, gwedi swper, gan ddywedyd: Y cwpan hwn, y cyfamod newydd ydyw yn y gwaed mau. Gwnewch hyn, gynifer gwaith bynnag yr yfoch, er cof amdanaf i.
26
Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn ac yr yfoch y cwpan, marwolaeth yr Arglwydd yr ydych yn ei chyhoeddi nes ei ddyfod (drachefn).
27
Felly, y neb a fwytao’r bara neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn anheilwng, euog fydd o gorff ac o waed yr Arglwydd.
28
Ond, profed dyn ef ei hun, ac felly’n unig bwytaed o’r dorth ac yfed o’r cwpan.
29
Canys y neb sy’n bwyta ac yn yfed, barn iddo’i hun y mae’n ei bwyta a’i hyfed, oni iawn farno’r corff.
30
Dyna paham y mae llawer yn eich plith chwi yn weiniaid a nychlyd, a chryn nifer yn huno.
31
Ond pe’n barnem ein hunain, yna ni’n bernid.
32
A phan fernir ni gan yr Arglwydd, fe’n disgyblir, fel na’n collfarner gyda’r byd.
33
Felly, fy mrodyr, pan ddeloch ynghŷd i’r bwyta, disgwyliwch bawb ei gilydd.
34
Od oes neb â newyn arno, bwytaed yn tŷ, fel nad i farn y deloch ynghŷd. A phopeth arall, pan ddelwyf mi a’u trefnaf.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16