bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 12
1 Corinthians 12
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Ond am y doniau ysbrydol, frodyr, ni fynnwn fod ohonoch yn anwybodus.
2
Gwyddoch eich arwain ymaith, â chwi eto’n ethnigion, at yr eilunod, fudion bethau, sut bynnag y’ch arweinid.
3
Oherwydd hynny yr wyf yn hysbysu i chwi na ddywed neb a lefaro yn Ysbryd Duw, “Anathema Iesu,” ac na ddichon neb ddywedyd: “Arglwydd Iesu,” onid yn yr Ysbryd Glân.
4
Ond y mae amryfal rannu ar ddoniau, eithr yr un Ysbryd;
5
ac y mae amryfal ddosbarthu ar weinidogaethau, a’r un Arglwydd;
6
a gwahanol foddau ar gyfrannu grymusterau, a’r un Duw y sy’n grymuso’r cwbl yng nghwbl.
7
Ond i bob un y rhoddir amlygiad yr Ysbryd er llesâd.
8
Canys i un drwy’r Ysbryd y rhoddir traethu doethineb, ac i arall draethu gwybodaeth yn ôl yr un Ysbryd;
9
i arall eto ffydd drwy’r un Ysbryd, ac i arall ddoniau iacháu drwy’r un Ysbryd,
10
ac i arall rymusterau nerthoedd, ac i arall broffwydoliaeth, ac i arall wahaniaethu rhwng ysbrydion, ac i arall amryw dafodau, ac i arall ddehongli tafodau.
11
A’r rhai hyn oll y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu grymuso, gan gyfrannu i bob un ar ei ben ei hun fel y mynno ef.
12
Canys fel y mae’r corff yn un, ag iddo aelodau lawer, a bod holl aelodau’r corff, er eu hamled, yn un corff, felly hefyd y Crist;
13
canys drwy un Ysbryd y’n bedyddiwyd, ninnau oll, yn un corff, ai Iddewon ai Groegiaid, ai caethion ai rhyddion; ac ag un Ysbryd diodwyd ni oll.
14
Canys y corff, nid yw un aelod, ond llawer.
15
Os dywed y troed, “Gan nad wyf law, nid rhan o’r corff mohonof,” nid yw wrth hynny yn peidio â bod yn rhan o’r corff.
16
Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf lygad, nid rhan o’r corff mohonof,” nid yw wrth hynny yn peidio â bod yn rhan o’r corff.
17
Pe byddai’r corff i gyd yn llygad, mae’r clyw? Pe clyw fyddai i gyd, mae’r arogliad?
18
Ond wele’n awr, Duw a osododd yr aelodau yn y corff, bob un ohonynt megis yr ewyllysiodd.
19
Pe byddai’r holl aelodau yn un aelod, beth am y corff?
20
Eithr yn awr, llawer aelod, ond un corff.
21
Ond ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, “Nid rhaid imi wrthyt ti” nac ychwaith y pen wrth y traed, “Nid rhaid imi wrthych chwi.”
22
Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau hynny o’r corff yr ymddengys eu bod yn wannaf sydd anhepgor;
23
a’r aelodau hynny y sydd i’n tyb ni yn lleiaf eu parch, y rhai hynny a arwisgwn â pharch neilltuol; ac fe gaiff ein haelodau anweddaidd weddeidd-dra neilltuol,
24
ond ein haelodau gweddus, nid rhaid iddynt wrtho. Ond Duw a gydnawseiddiodd y corff, gan roddi parch neilltuol i’r aelodau a fyddai fyr ohono,
25
fel na byddai rhwyg yn y corff, namyn bod yr aelodau ag arnynt yr un pryder am ei gilydd.
26
Ac os dioddef un aelod, cyd-ddioddefa’r aelodau oll; os gogoneddir aelod, cydlawenhâ’r aelodau oll.
27
A chwithau, corff Crist ydych, ac aelodau bob yr un.
28
A rhai a osododd Duw yn yr eglwys, yn gyntaf, apostolion; yn ail, proffwydi; yn drydydd, athrawon; yna, nerthoedd; yna doniau iachâd, cymhorthau, llywodraethau, amryw dafodau.
29
Tybed ai apostolion pawb? Ai proffwydi pawb? Ai athrawon pawb?
30
A oes i bawb nerthoedd? A fedd pawb ddoniau iachâd? A lefara pawb â thafodau? A fedr pawb eu dehongli?
31
Ond byddwch yn fawr eich awydd am y doniau uwch.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16