bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 14
1 Corinthians 14
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Ymlidiwch ar ôl cariad, a byddwch fawr eich awydd am ddoniau ysbrydol, ond yn bennaf mynnwch broffwydo.
2
Canys y neb sy’n llefaru â thafod, nid wrth ddynion y mae’n llefaru, eithr wrth Dduw. Canys nid oes neb yn ei glywed, eithr yn yr ysbryd llefara ddirgel bethau.
3
Eithr y neb sy’n proffwydo, wrth ddynion y mae’n llefaru, er adeiladu, calonogi, a chysuro.
4
Y neb sy’n llefaru â thafod, ei adeiladu ei hun y mae, ond y neb sy’n proffwydo, yr eglwys a adeilada.
5
Boddlon gennyf i bawb ohonoch lefaru â thafodau, ond yn fwy na dim broffwydo ohonoch. Mwy yn wir yw’r sawl sy’n proffwydo na’r sawl sy’n llefaru â thafodau, oddieithr iddo yntau ddehongli, fel y caffo’r eglwys adeiladaeth.
6
Ac yn awr, frodyr, os dof atoch gan lefaru â thafodau, pa les a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych, ai mewn datguddiad, ai mewn gwybodaeth, ai mewn proffwydoliaeth, ai mewn athrawiaeth?
7
Yr un modd, y mae’r pethau di-fywyd yn rhoddi sain, ai chwibanogl ai telyn; oni roddant gyfwng rhwng y seiniau, pa fodd yr adweinir y peth a genir ar y chwibanogl neu ar y delyn?
8
Canys, o rhydd utgorn sain aneglur, pwy a ymbaratoa i ryfel?
9
Felly chwithau hefyd, oni roddoch drwy’r “tafod” ymadrodd eglur ei ystyr, pa fodd yr adweinir y peth a leferir? Canys cystal fyddwch â rhai’n llefaru wrth yr awyr.
10
Ond y mae cynifer math ar dafodau yn y byd, ac nid oes un ohonynt heb ystyr;
11
ond eto, oni wypwyf i rym yr iaith, byddaf, i’r neb a’i llefaro hi, yn farbariad, a’r sawl a’i llefaro yn farbariad i minnau.
12
Felly, chwithau hefyd, gan eich bod yn chwannog am ddoniau ysbrydol, boed mai er adeiladaeth y ceisioch fod yn helaeth ynddynt.
13
Am hynny, y neb sy’n llefaru â “thafod,” gweddïed am allu i’w ddehongli.
14
Canys os gweddïaf â “thafod,” fy ysbryd sy’n gweddïo, eithr y mae fy meddwl yn ddiffrwyth;
15
Beth ynteu? Gweddïaf â’m hysbryd; gweddïaf â’m deall hefyd: canmolaf â’m deall hefyd.
16
Canys os bendigi ag ysbryd, pa fodd y dywed y sawl a fo yn sedd y cyffredin yr Amen i’th ddiolch di? Canys ni ŵyr pa beth a leferi.
17
Canys gwych y teli ddiolch, eithr y llall nis adeiledir.
18
Diolch i Dduw, yr wyf i’n llefaru â “thafodau” yn fwy na phawb ohonoch,
19
eithr yn yr eglwys mwy dymunol gennyf lefaru pum gair â’m deall, fel y gallwyf hyfforddi eraill hefyd, yn hytrach na myrddiwn o eiriau â “thafod.”
20
Frodyr, na byddwch blant o ran deall, eithr mewn drygioni byddwch blantos; ond o ran deall byddwch berffeithion.
21
Yn y gyfraith ceir yn ysgrifenedig: â thafodau eraill ac â gwefusau eraill y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd yn oed wedi hynny ni wrandawant arnaf, medd yr Arglwydd.
22
Y tafodau, felly, arwydd ydynt, nid i’r rhai credadun, eithr i’r rhai anghredadun; ond am broffwydoliaeth, nid i’r rhai anghredadun, eithr i’r rhai credadun y mae.
23
Yna, o daw’r eglwys ynghŷd yn gryno i’r un fan, a llefaru o bawb â thafodau, a dyfod i mewn rai anghyfarwydd, neu rai anghredadun, oni ddywedant eich bod o’ch pwyll?
24
Ond o phroffwyda pawb, a dyfod i mewn rywun anghredadun neu anghyfarwydd, fe’i hargyhoeddir gan bawb, fe’i bernir gan bawb,
25
daw’n amlwg gudd bethau ei galon ef, ac felly, gan syrthio ar ei wyneb, fe addola Dduw gan gyffesu: yn wir y mae Duw yn eich plith chwi.
26
Beth, ynteu, frodyr? Pan ddeloch ynghŷd, bydd gan bob un ei salm, ei athrawiaeth, ei ddatguddiad, ei “dafod,” ei ddehongliad. Popeth, bydded er adeiladaeth.
27
O llefara neb â “thafod,” bydded hynny hyd ddau neu yn y fan bellaf dri, ac yn eu tro, a dehongled un.
28
Ac oni bo ddehonglydd, tawed yn yr eglwys a llefared wrtho ef ei hun ac wrth Dduw.
29
Am y proffwydi, llefared dau neu dri, a barned y lleill.
30
Ac o daw datguddiad i arall, ac yntau’n eistedd, tawed y cyntaf.
31
Canys fe all pawb ohonoch bob yn un broffwydo, fel y dysgo pawb ac yr anoger pawb, —
32
ac ysbrydoedd proffwydi, i broffwydi y maent ddarostyngedig,
33
canys nid Duw anhrefn mohono, eithr Duw heddwch — megis yn holl eglwysi’r saint.
34
Tawed y gwragedd yn yr eglwysi, canys ni chaniateir iddynt lefaru, eithr byddent ddarostyngedig, megis y dywed y gyfraith hefyd.
35
Od ewyllysiant ddysgu rhywbeth, holent eu gwŷr priod yn tŷ, canys peth anweddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys.
36
Ai o’ch plith chwi yr aeth gair Duw allan, ai atoch chwi’n unig y daeth?
37
O thybia neb ei fod yn broffwyd neu “ddyn ysbrydol,” cydnabydded mai gorchymyn yr Arglwydd yw’r pethau a sgrifennaf atoch.
38
Oni chydnabyddo neb, na chydnabydder (yntau).
39
Am hynny, fy mrodyr, byddwch chwannog i broffwydo, ac na rwystrwch y llefaru â thafodau.
40
Eithr boed pob peth yn weddus ac wrth drefn.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16