bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 7
1 Corinthians 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
1
Ond am y pethau yr ysgrifenasoch yn eu cylch, gwiw i ddyn na chyffyrddo â gwraig.
2
Ond oherwydd y godinebu y sydd, boed i bob un ei wraig ei hun, a boed i bob gwraig ei phriod ŵr.
3
Rhodded y gŵr i’w wraig yr hyn sydd ddyledus iddi, a’r un wedd y wraig hefyd i’w gŵr.
4
Y wraig, nid oes iddi awdurdod ar ei chorff ei hun, namyn i’w gŵr, a’r un wedd y gŵr hefyd, nid oes iddo awdurdod ar ei gorff ei hun, namyn i’w wraig.
5
Na chamateliwch oddiwrth eich gilydd yr hyn sydd ddyledus, oddieithr o gytundeb dros amser, fel y caffoch egwyl i weddi a thrachefn ddyfod ynghŷd, fel na’ch temtio Satan oherwydd eich anymatal.
6
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd trwy oddef, nid fel gorchymyn.
7
Ond mynnwn fod pob dyn megis minnau hefyd, eithr y mae i bob un ei briod ddawn o Dduw, i’r naill fel hyn, i’r llall fel arall.
8
Ond dywedyd yr wyf wrth y dibriod a’r gwragedd gweddwon, gwiw iddynt aros megis minnau hefyd.
9
Eithr oni allant ymatal, priodent, canys gwell priodi nag ymlosgi.
10
Ond i’r rhai priod eisoes, yr wyf yn gorchymyn, — nid myfi ond yr Arglwydd, — nad ymadawo gwraig oddiwrth ei gŵr.
11
Ond os ymedy hefyd, arhoed heb briodi neu cymoder hi â’i gŵr — a’r gŵr, yntau, na ollynged ymaith ei wraig.
12
Ond wrth y lleill dywedaf — myfi, nid yr Arglwydd — o bydd i ryw frawd wraig anghredadun, a honno yn cydsynio i fyw gydag ef, na ollynged hi ymaith.
13
A gwraig y bo iddi ŵr anghredadun, a hwnnw yn cydsynio i fyw gyda hi, na ollynged ymaith ei gŵr.
14
Canys cysegrwyd y gŵr anghredadun yn ei wraig, a chysegrwyd y wraig anghredadun yn y “brawd”; os amgen, dyna’ch plant yn aflan, ond yn awr sanctaidd ydynt.
15
Ond os yr anghredadun sydd am ymadael, ymadawed; nid yw’r brawd neu’r chwaer yn gaeth yn y cyfryw, eithr i heddwch y’ch galwodd Duw.
16
Canys beth a wyddost ti, wraig, a achubi di dy ŵr? Neu beth a wyddost ti, ŵr, a achubi di dy wraig?
17
Eithr pob un, fel y mae Duw wedi rhannu iddo, pob un fel y mae’r Arglwydd wedi ei alw, dalied i rodio, ac felly yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll.
18
Ai yn enwaededig y galwyd neb? Na cheisied guddio hynny; ai yn ddienwaededig y galwyd neb? Na cheisied enwaedu arno.
19
Enwaediad nid yw ddim na dienwaediad chwaith, eithr cadw gorchmynion Duw.
20
Arhosed pob un yn yr alwad y galwyd ef ynddi.
21
Ai gwas oeddit pan alwyd di? Na foed hynny yn ddrwg gennyt; ond o gelli ddyfod yn ŵr rhydd, dewis hynny yn hytrach na pheidio.
22
Canys y gŵr a alwyd yn yr Arglwydd ac ef yn gaethwas, gŵr rhyddhäedig yr Arglwydd yw; a’r un modd yr hwn a alwyd ac ef yn rhydd, caethwas Crist ydyw.
23
Er gwerth y’ch prynwyd; na ddeuwch yn gaethion dynion.
24
Arhosed pob un ger bron Duw, frodyr, yn yr ystâd honno y galwyd ef ynddi.
25
Drachefn, am y gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd, eithr barn yr wyf yn ei rhoddi fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon.
26
Tybiai gan hynny mai hyn sydd dda oherwydd yr anghenraid sy’n pwyso arnom, sef mai da i ddyn fod fel y mae.
27
Ai rhwym wyt wrth wraig? Na chais ollyngdod; ai rhydd wyt oddiwrth wraig? Na chais wraig;
28
a hyd yn oed pe priodit, ni phechaist; ac o phrioda gwyry, ni phechodd; eithr blinder i’r cnawd a gaiff y cyfryw rai, ond yr wyf i am eich arbed chwi.
29
Ond dyma a ddywedaf, frodyr, cwtogwyd yr amser; fel o hyn allan y bo’r rhai â chanddynt wragedd megis pe na bai ganddynt,
30
a’r rhai sy’n wylo megis pe na baent yn wylo, a’r rhai sy’n llawenhau megis pe na baent yn llawenhau, a’r rhai sy’n prynu megis pe na baent yn meddiannu,
31
a’r rhai sy’n trafod y byd megis pe na baent yn ennill dim o’i drafod; canys myned heibio y mae dull y byd hwn.
32
Ond mynnwn eich bod chwi yn ddibryder. Y mae’r dibriod yn pryderu am bethau’r Arglwydd, pa fodd y bodlono’r Arglwydd;
33
ond y gŵr priod, pryderu y mae am bethau’r byd, pa fodd y bodlono’i wraig,
34
ac fe’i rhannwyd. A’r wraig ddibriod a’r forwyn pryderu y maent am bethau’r Arglwydd, fel y bo sanctaidd gorff ac ysbryd; ond yr hon sydd briod, pryderu y mae am bethau’r byd, pa wedd y rhyngo fodd i’w gŵr.
35
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd er eich budd chwi eich hunain, nid i fwrw magl arnoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd, ac fel y boch yn llwyr at alwad yr Arglwydd heb fod dim yn eich croesdynnu.
36
Ond od oes rywun yn barnu ei fod yn ymddwyn yn anweddus tuagat ei wyry, o bydd yn or-nwydus, a rhaid i hynny fod felly, gwnaed a fynno; nid yw’n pechu; priodent.
37
Ond y neb a saif yn ddiysgog yn ei galon, heb fod dan orfod, ond â chanddo lywodraeth ar ei ewyllys ei hun, ac a benderfynodd hyn yn ei galon ei hun, sef cadw ei wyry fel y cyfryw, da y gwnâ.
38
Felly, ar y naill law, y neb a briodo ei wyry ei hun, da y gwnâ, ac ar y llaw arall, y neb ni phriodo, gwell y gwnâ.
39
Y mae gwraig yn rhwym cyhyd ag y bo byw ei gŵr; ond os huna’r gŵr, rhydd ydyw i briodi’r neb a fynno — yn unig yn yr Arglwydd.
40
Ond dedwyddach ydyw od erys fel y mae, yn fy marn i. A thybiaf fod Ysbryd Duw gennyf innau.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16