bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 5
1 Corinthians 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
Fe glywir — dim llai — am odineb yn eich plith, a chyfryw odineb ag nas ceir hyd yn oed ymhlith y cenhedloedd, sef caffael o ddyn wraig ei dad.
2
A chwithau, ai chwyddedig ydych, ac heb alaru, — rheitiach peth, — fel y certhid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon?
3
Canys myfi, yn absennol o ran y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, yn enw yr Arglwydd Iesu, wedi ymgynnull ohonoch chwi a’m hysbryd innau ynghŷd, gyda nerth ein Harglwydd Iesu, fel pe bawn bresennol, bernais eisoes am y sawl a gyflawnodd hyn yn y modd hwnnw,
5
draddodi’r cyfryw un i Satan, fel y dinistrid y cnawd ond achub yr ysbryd yn nydd yr Arglwydd.
6
Nid gweddaidd eich ymffrost chwi. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does?
7
Certhwch allan yr hen lefain, fel y boch does newydd, megis yr ydych yn ddilefain. Canys aberthwyd ein Pasg ni, sef Crist;
8
felly cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac ychwaith â lefain malais a drygioni, ond â chroywfwyd purdeb a gwirionedd.
9
Ysgrifennais atoch yn y llythyr na bai i chwi gyfathrach ag anlladwyr,
10
nid yn llwyr ag anlladwyr y byd hwn, na’i gybyddion a’i gribddeilwyr, na’r eilunaddolwyr, oblegid, wrth gwrs, rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd.
11
Ond yn awr ysgrifennu atoch a wneuthum na bo gyfathrach o bydd neb a elwir yn frawd yn odinebwr, neu gybydd, neu eilunaddolwr, neu ddifennwr, neu feddwyn, neu gribddeilwr, — gyda’r cyfryw ddyn na chydfwytewch hyd yn oed.
12
Canys pa beth sydd a wnelwyf fi â barnu’r rhai oddiallan? Onid y rhai sydd oddimewn a fernwch chwi?
13
Ond am y rhai tuallan, Duw a’u barn. Tynnwch allan y drygionus hwnnw o’ch plith.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16