bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 4
1 Corinthians 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
1
Gan hynny cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion Crist a gorchwylwyr ar ddirgel bethau Duw.
2
Felly yr ydys yn disgwyl, fel peth anhepgor mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon.
3
Ond o’m rhan i, bychan iawn o beth yw fy marnu gennych chwi, neu ger bron brawdle dyn: ac nid wyf fi yn fy marnu fy hun chwaith.
4
Canys nid oes dim ar fy nghydwybod i; eithr yn hyn ni’m cyfiawnhawyd, ond yr hwn a’m barn i yw yr Arglwydd.
5
Gan hynny, na fernwch ddim cyn pryd, hyd oni ddêl yr Arglwydd, yr hwn hefyd a oleua gudd bethau’r tywyllwch a dadlennu bwriadau’r calonnau, ac yna y daw’r glod i bob un gan Dduw.
6
Y pethau hyn, frodyr, a gymhwysais i ataf fy hun ac at Apolos o’ch achos chwi, fel y dysgech ynnom ni y gair hwnnw, “nid dim dros ben yr hyn a sgrifennwyd,” fel nad ymchwyddo neb dros un yn erbyn arall.
7
Canys pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? Beth sydd gennyt nas derbyniaist? Ac os derbyniaist hefyd, paham yr ymffrosti megis pe bait heb dderbyn?
8
Dyma chwi eisoes wedi’ch diwallu, dyma chwi eisoes wedi ymgyfoethogi; hebom ni, dyma chwi wedi dyfod i’ch teyrnas, — ac och Dduw! na ddeuthech i’ch teyrnas, fel y teyrnasem ninnau hefyd gyda chwi.
9
Canys, i’m tyb, fe’n dynododd Duw ni, apostolion, yn olafiaid, fel rhai wedi eu bwrw i farw, canys fe’n gwnaethpwyd yn ddrych i’r byd, i angylion ac i ddynion.
10
Ffyliaid ydym ni er mwyn Crist, ond chwychwi, doethion ydych yng Nghrist; nyni yn weiniaid, chwithau’n gryfion; chwychwi yn ogoneddus, ninnau’n ddirmygedig.
11
Hyd yr ennyd hon y mae arnom ni newyn a syched, noethion ydym, fe’n cernodir, digartref ŷm
12
a blin gan lafur ein dwylo ein hunain; pan ddifenwer ni, bendithio a wnawn; pan erlidier ni, goddef a wnawn;
13
pan gabler ni, dywedyd yn deg a wnawn; fel golchion y byd y’n gwnaethpwyd ni, fel creifion pob dim hyd yma.
14
Nid i beri cywilydd i chwi yr wyf yn ysgrifennu hyn, ond i’ch darbwyllo fel fy mhlant annwyl.
15
Canys od oes i chwi filoedd ar filoedd o baedagogiaid yng Nghrist, eto nid oes i chwi lawer o dadau, canys yng Nghrist Iesu, trwy’r efengyl, myfi a’ch cenhedlodd.
16
Am hynny erfyniai arnoch, byddwch efelychwyr ohonof fi.
17
Oblegid hyn yr anfonais atoch Dimotheos, yr hwn yw fy mab annwyl a ffyddlon yn yr Arglwydd, a’r hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, megis yr wyf yn addysgu ymhobman, ymhob eglwys.
18
Ond fel pe na bawn i yn dyfod atoch, fe ymchwyddodd rhai;
19
eithr dyfod atoch a wnâi ar fyr, os myn yr Arglwydd, a gwybyddaf nid ymadrodd y chwyddedigion, ond eu nerth,
20
canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn nerth.
21
Beth a fynnwch? Ai dyfod ohonof atoch â gwialen, ai ynteu â chariad ac ysbryd addfwynder?
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16