bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 2
1 Corinthians 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
A minnau wrth ddyfod atoch, frodyr, nid ym mraint rhagoriaeth ymadrodd neu ddoethineb y deuthum, gan gyhoeddi i chwi’r dystiolaeth am Dduw.
2
Canys ni honnais wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist a hwnnw yn groeshoeliedig.
3
A myfi, mewn gwendid ac mewn ofn ac mewn cryndod mawr y deuthum hyd atoch;
4
a dull fy ymadrodd i a’m pregeth i, ni bu â dengar eiriau doethineb, eithr ag amlygiad ysbryd a gallu,
5
fel na orffwysai eich ffydd chwi ar ddoethineb dynion ond ar allu Duw.
6
Doethineb, yn wir, yr ydym yn ei llefaru ym mysg y rhai perffaith, ond doethineb nid eiddo’r byd hwn, nac ychwaith eiddo penaethiaid y byd hwn, y rhai y mae eu grym yn darfod.
7
Eithr llefaru yr ydym ddoethineb Duw mewn cyfrinach, y ddoethineb annatguddiedig, a ragderfynodd Duw cyn yr oesoedd er gogoniant i ni;
8
yr hon nid adnabu neb o benaethiaid y byd hwn, canys pes adnabuasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant;
9
Eithr fel y mae’n ysgrifenedig, Pethau ni welodd llygad ac nis clybu clust, ac nid esgynnodd i galon dyn, yr holl bethau a baratôdd Duw i’r rhai a’i caro.
10
Canys i ni, datguddiodd Duw trwy’r Ysbryd, oherwydd yr ysbryd sydd yn olrhain pob peth, ie, dyfnion bethau Duw hefyd.
11
Canys pa ddyn a ŵyr bethau dyn, ond ysbryd dyn, sef yr ysbryd sydd ynddo? felly hefyd bethau Duw, nis gŵyr neb namyn ysbryd Duw.
12
A ninnau nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr ysbryd sydd o Dduw, fel y gwypom y pethau a rad-roddwyd i ni gan Dduw;
13
pethau hefyd yr ydym yn eu llafaru, nid mewn ymadroddion a ddysgwyd trwy ddoethineb ddynol, ond a ddysgwyd trwy’r Ysbryd, gan gymhwyso pethau ysbrydol at ysbrydolion.
14
Ond am ddyn anianol, ni dderbyn ef bethau ysbryd Duw, canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac ni ddichon wybod mai yn ysbrydol y bernir hwynt;
15
ond y mae’r dyn ysbrydol yn barnu popeth, ond ef ei hun nis bernir gan neb.
16
Canys pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? eithr nyni, y mae gennym feddwl Crist.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16