bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 13
1 Corinthians 13
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
1
A ffordd odidocach fyth yr wyf yn ei dangos i chwi. Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, a’m bod eto heb gariad, wele efydd yn datsain neu symbal yn sernial fyfi.
2
A phe bai eiddof broffwydo a bod yn hysbys i mi’r dirgelion i gyd, a phob gwybod, a phe bai i mi bob ffydd, fel y symudwn fynyddoedd, eto, a’m bod heb gariad, nid wyf ddim.
3
A phe’n gardod y rhannwn fy meddiannau oll, a phe dodwn fy nghorff fel y’m llosgid, a’m bod hefyd heb gariad, nid llesach i mi hynny.
4
Cariad, hirymarhous yw; cymwynasgar fydd cariad; ni bydd cenfigennus; nid ymffrostia cariad, nid ymchwydda;
5
ni bydd anweddaidd, ni chais yr eiddo’i hun, nis cythruddid ni chyfrif ddrwg.
6
Ni bydd lawen oblegid anghyfiawnder, eithr cydlawenhâ â’r gwirionedd.
7
Dioddefa bob dim yn ddistaw, cred bob dim, gobeithia bob dim, deil odditan bob dim.
8
Cariad byth ni chwymp i lawr; eithr am broffwydoliaethau, fe’u diddymir, neu am dafodau, fe dawant, neu wybodaeth, fe’i diddymir.
9
Canys darn-wybod yr ydym, a darn-broffwydo.
10
Eithr pa bryd bynnag y dêl y peth cyflawn, yna diddymir y darn-beth.
11
Pan oeddwn blentyn, llefarwn fel plentyn, syniwn fel plentyn, rhesymwn fel plentyn; ond wedi dyfod yn ŵr, bwriais heibio bethau’r plentyn.
12
Canys ar hyn o bryd gweled trwy ddrych yr ydym, ar wedd pôs, ond y pryd hwnnw, wyneb yn wyneb; weithion, mewn rhan yr adwaen, ond yna hefyd y llwyr adnabyddaf megis y’m llwyr adweinir.
13
Felly yr awron fe erys ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn. A mwyaf ohonynt yw cariad.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16