bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 Corinthians 3
1 Corinthians 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
1
Minnau, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth fabanod yng Nghrist.
2
Diodais chwi â llaeth, ni roddais i chwi fwyd, canys hyd yna ni allech ei gymryd. Ac nis gellwch yr awr hon chwaith, canys cnawdol ydych eto;
3
canys, a chenfigen a chynnen yn eich plith chwi, onid ydych yn gnawdol ac yn rhodio yn null dyn?
4
Canys pan ddywedo rhyw un, “Myfi, eiddo Pawl wyf,” ac arall, “Myfi, eiddo Apolos,” onid dynion ydych?
5
Pa beth, ynteu, yw Apolos, neu ba beth Pawl? Gweision, y credasoch chwi drwyddynt, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un ohonynt.
6
Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw a roddes y cynnydd;
7
gan hynny nid yw na’r plannwr ddim na’r dyfrhawr chwaith, ond Duw, y sydd yn rhoddi’r cynnydd.
8
Eithr y plannwr a’r dyfrhawr un ydynt, eithr pob un a dderbyn ei briod wobr yn ôl ei briod lafur.
9
Canys cydweithwyr i Dduw ydym; maes llafur Duw ydych, ac adeiladwaith Duw.
10
Yn ôl y gras Duw a rodded i mi, fel pensaer doeth, gosodais sylfaen, eithr arall sydd yn adeiladu arni. Edryched pob un pa fodd yr adeilado.
11
Canys sylfaen arall ni all neb ei gosod oddieithr honno a osodwyd, sef Iesu Grist.
12
Ac ar y sylfaen, od adeilada neb aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl,
13
gwneir gwaith pob un yn amlwg. Canys y dydd a’i hamlyga, oblegid trwy dân y datguddir, a gwaith pob un, pa fath ydyw, y tân a’i prawf.
14
Canys od erys y gwaith a adeiladodd neb, fe dderbyn hwnnw ei dâl.
15
O llosgir gwaith neb, colledir hwnnw, eithr cedwir ef ei hun, ond eto megis trwy dân.
16
Oni wyddoch mai teml Dduw ydych, a bod ysbryd Duw yn trigo ynoch?
17
Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw; canys sanctaidd yw teml Dduw, a hynny ydych chwi.
18
Na thwylled neb ef ei hunan; od oes neb yn eich plith yn ei dybied ei hun yn ddoeth yn y bresen hon, aed yn ffôl, fel y dêl yn ddoeth.
19
Canys y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb gan Dduw; canys ysgrifennwyd, Yr hwn sy’n dal y doethion yn eu cyfrwysdra.
20
A thrachefn, Gŵyr yr Arglwydd feddyliau’r doethion, mai ofer ydynt.
21
Felly, nac ymffrostied undyn mewn dynion, canys eiddo chwi bopeth,
22
pa un bynnag ai Pawl, ai Apolos, ai Cephas, pa un bynnag ai’r byd ai bywyd ai angau, pa un bynnag ai pethau sydd ai pethau a ddêl, eiddoch chwi’r cwbl;
23
a chwithau’n eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16