bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 1
Romans 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
1
Paul, caethwas Crist Iesu, a alwyd i fod yn apostol, Wedi ei neilltuo i efengyl Duw, yr hon
2
a ragaddawodd ef trwy ei broffwydi mewn ysgrythurau sanctaidd,
3
am ei Fab, a aned o had Dafydd yn ôl y cnawd,
4
a benodwyd yn Fab Duw mewn gallu yn ôl ysbryd sancteiddrwydd trwy atgyfodiad meirwon, Iesu Grist ein Harglwydd,
5
y derbyniasom trwyddo ras ac apostoliaeth i ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw;
6
y rhai yr ydych chwithau yn eu plith yn alwedigion Iesu Grist:
7
at bawb sydd yn Rhufain yn annwyl gan Dduw, a alwyd i fod yn saint. Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
8
Yn gyntaf diolchaf i’m Duw trwy Iesu Grist amdanoch chwi oll, oblegid cyhoeddi eich ffydd yn yr holl fyd.
9
Oblegid fy nhyst yw Duw, yr hwn a wasanaethaf â’m hysbryd yn efengyl ei Fab, mor ddibaid y coffâf chwi bob amser yn fy ngweddïau,
10
gan ddeisyf a gawn rywfodd, rywbryd bellach, rwydd hynt trwy ewyllys Duw i ddyfod atoch.
11
Canys y mae hiraeth arnaf am eich gweled, fel y cyfrannwyf i chwi ryw ddawn ysbrydol, i’ch cadarnhau chwi,
12
hynny yw, i’n cydgysuro yn eich plith drwy’r ffydd sydd yn y naill a’r llall, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau.
13
Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi lawer gwaith fwriadu dyfod atoch, a’m rhwystro hyd yn hyn, fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwithau, megis yn y gweddill o’r Cenhedloedd.
14
I Roegiaid ac i farbariaid, i ddoethion ac i annoethion, dyledwr wyf.
15
Felly, o’m rhan i, eiddgar wyf i gyhoeddi’r efengyl i chwithau sydd yn Rhufain.
16
Canys nid oes arnaf gywilydd o’r efengyl, oblegid gallu Duw ydyw er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu, i Iddew yn gyntaf ac i Roegwr.
17
Canys datguddir ynddi gyfiawnder Duw o ffydd i ffydd, fel yr ysgrifennwyd: Y cyfiawn, trwy ffydd y bydd byw.
18
Canys datguddir digofaint Duw, o’r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion sy’n atal y gwirionedd drwy anghyfiawnder.
19
Oherwydd yr hyn y gellir ei wybod am Dduw sy’n eglur ynddynt, oblegid eglurodd Duw ef iddynt.
20
Canys ei anweledig bethau ef, er creadigaeth y byd, o’u deall trwy’r pethau a wnaed, a welir yn glir — ei dragwyddol allu a’i ddwyfoldeb — fel y byddont yn ddiesgus.
21
Oherwydd er iddynt adnabod Duw nis gogoneddasant fel Duw, na rhoddi diolch, ond aethant yn ofer yn eu hopiniynau a thywyllwyd eu calon anneallus.
22
Yn honni eu bod yn ddoethion aethant yn ffyliaid,
23
a chyfnewid gogoniant yr anllygradwy Dduw am debygrwydd llun dyn llygradwy, ac ehediaid, a phedwarcarnolion, ac ymlusgiaid.
24
Am hynny traddododd Duw hwynt yn chwantau eu calonnau i aflendid amherchi eu cyrff yn eu plith,
25
y rhai a newidiodd y Gwir Dduw am y Celwydd, ac addoli a gwasanaethu y cread yn hytrach nag ef a’i creodd, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd. Amen.
26
Oblegid hyn y traddododd Duw hwynt i nwydau gwarthus; canys newidiodd eu gwragedd yr arfer naturiol am yr un annaturiol,
27
a’r un modd, gan adael heibio yr arfer naturiol o’r wraig, ymlosgodd y gwŷr hwythau yn eu dyhead am ei gilydd, gwŷr gyda gwŷr yn cyflawni’r ffieidd-dra, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl priod am eu cyfeiliorni.
28
Ac megis na bu gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, traddododd Duw hwynt i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nad ydynt weddaidd,
29
wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, drygwaith, trachwant, drygioni, yn orlawn o genfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, malais,
30
yn sibrydwyr, yn athrodwyr, yn casáu Duw, yn dreiswyr, yn feilchion, yn ymffrostwyr, yn ddyfeiswyr drygau, yn anufudd i rieni,
31
yn ddiddeall, yn dorwyr amod, yn ddi-serch, yn ddidosturi;
32
a hwy’n gwybod ordeiniad Duw, bod y sawl sy’n gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, nid yn unig fe’u gwnânt, eithr hefyd cymeradwyant y sawl a’u gwna.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16