bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 11
Romans 11
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
Dywedaf gan hynny, a wrthododd Duw ei bobl? Na ato! Canys Israeliad wyf finnau, o had Abraham, o lwyth Beniamin.
2
Ni wrthododd Duw ei bobl a ragadnabu. Oni wyddoch beth a ddywed yr ysgrythur yn “Elïas,” pa fodd yr achwyn ef wrth Dduw ar Israel:
3
Arglwydd, lladdasant dy broffwydi, dymchwelasant dy allorau, a myfi yn unig a adawyd, a cheisiant fy mywyd innau.
4
Eithr beth a ddywed yr ateb dwyfol iddo? Gadewais i mi fy hun saith mil o wŷr na phlygasant lin i Baal.
5
Yr un modd y pryd hwn hefyd ceir gweddill trwy etholedigaeth gras.
6
Ond os trwy ras, nid o weithredoedd y mae mwyach; onid e, nid yw gras mwyach yn ras.
7
Beth gan hynny? Ni chafodd Israel y peth a gais, ond cafodd yr etholedigion ef,
8
a chaledwyd y lleill, fel yr ysgrifennwyd: Rhoes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welant, a chlustiau fel na chlywant, hyd y dydd hwn.
9
A dywed Dafydd: Bydded eu bord yn rhwyd ac yn fagl, yn dramgwydd ac yn dâl iddynt.
10
Tywyller eu llygaid fel na welont, a chryma eu cefn yn wastad.
11
Dywedaf gan hynny, “A dramgwyddasant hyd at gwympo”? Na ato! Yn hytrach, trwy eu camwedd hwy y mae iachawdwriaeth i’r cenhedloedd, fel y perir iddynt eiddigeddu.
12
Ac os yw eu camwedd hwy yn olud byd, a’u colled yn olud cenhedloedd, pa faint mwy eu cyfiawnder?
13
A chwi sydd genhedloedd y siaradaf. Yn gymaint â’m bod i yn wir yn apostol cenhedloedd, mawrygaf fy ngweinidogaeth,
14
os paraf rywfodd i’m cnawd fy hun eiddigeddu, ac achub rhai ohonynt.
15
Canys os bu eu gwrthod hwynt yn gymod byd, beth fydd eu derbyn onid bywyd oddi wrth y meirw?
16
Ac os sanctaidd y blaenffrwyth, yna’r cyfan; ac os sanctaidd y gwreiddyn, yna’r canghennau.
17
Ac os torrwyd ymaith rai o’r canghennau, a’th impio di, olewydden wyllt, yn eu plith, a’th wneuthur yn gyfrannog o’r gwreiddyn, braster yr olewydden,
18
nac ymffrostia yn erbyn y canghennau; ac os ymffrosti, nid tydi sy’n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn dydi.
19
Dywedi felly, “Torrwyd ymaith ganghennau fel yr impid fi i mewn.”
20
Purion! O achos anghrediniaeth y torrwyd hwy ymaith, ac o achos ffydd y sefi dithau. Na fydd uchelfryd, eithr ofna.
21
Canys os Duw nid arbedodd y canghennau naturiol, ni’th arbed dithau chwaith.
22
Gwêl gan hynny diriondeb a llymder Duw: atynt hwy a gwympodd, llymder; ond atat ti, tiriondeb Duw, os glyni wrth ei diriondeb; onid e, torrir dithau ymaith.
23
A hwythau hefyd, oni lynant wrth eu hanghrediniaeth, a impir i mewn; canys y mae Duw yn abl i’w himpio i mewn drachefn.
24
Felly os torrwyd di ymaith o’r olewydden wyllt wrth naturiaeth, a’th impio yn erbyn naturiaeth mewn olewydden dda, pa faint mwy yr impir y canghennau naturiol hyn yn eu holewydden eu hunain?
25
Canys ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn (rhag i chwi fod yn gall yn eich tyb eich hunain), mai o ran y daeth caledwch ar Israel, hyd oni ddelo cyflawnder y cenhedloedd i mewn,
26
ac felly achubir holl Israel, fel yr ysgrifennwyd: Daw allan o Seion Un a wared, try ymaith bob annuwioldeb oddi wrth Jacob.
27
Ac yn hyn y daw fy nghyfamod â hwynt i ben, pan dynnwyf ymaith eu pechodau.
28
O ran yr efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond o ran yr etholedigaeth, anwyliaid er mwyn y tadau.
29
Canys di-droi-yn-ôl yw doniau a galwad Duw.
30
Canys, megis yr anufuddhasoch chwi gynt i Dduw, ond yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd-dod y rhai hyn,
31
yr un modd yn awr yr anufuddhaodd y rhai hyn hefyd, fel trwy ei drugaredd i chwi y caent hwythau yn awr drugaredd.
32
Canys cyd-gaeodd Duw bawb mewn anufudd-dod fel y trugarhâi wrth bawb.
33
O ddyfnder golud, doethineb, a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy ei farnau ac anolrheinadwy ei ffyrdd!
34
Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd? Neu, pwy a fu gynghorwr iddo?
35
Neu, pwy a roes iddo yn gyntaf, ac y telir yn ôl iddo?
36
Oblegid ohono, a thrwyddo, ac iddo, y mae popeth. Iddo ef y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16