bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 12
Romans 12
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Gan hynny, frodyr, erfyniaf arnoch trwy dosturiaethau Duw, gyflwyno eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, wrth fodd Duw, eich rhesymol addoliad chwi.
2
Ac nac ymagweddwch yn ôl yr oes hon, eithr trawsffurfier chwi trwy adnewyddiad y meddwl, fel y profoch beth yw ewyllys Duw, y peth sy dda a boddhaol a chyflawn.
3
Trwy’r gras a roddwyd i mi, dywedaf wrth bob un sydd yn eich plith, na osodo ei fryd ar ddim yn uwch nag y dylai, eithr rhoi ei fryd ar fod yn gymedrol, yn ôl y mesur o ffydd a rannodd Duw i bob un.
4
Oblegid megis mewn un corff y mae gennym aelodau lawer, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith,
5
felly nyni, sy’n llawer, un corff ydym yng Nghrist, ac aelodau bob un o’n gilydd.
6
A chennym ddoniau yn amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, ai proffwydoliaeth, boed yn cyfateb i’n ffydd;
7
ai gwasanaeth, ymrown i’r gwasanaeth; ai addysgwr, i addysgu; ai cynghorwr, i gynghori;
8
a gyfranno, gwnaed yn unplyg; a lywyddo, yn frwdfrydig; a wnelo drugaredd, yn siriol.
9
Boed eich cariad yn ddiragrith. Ffieiddiwch ddrygioni, glynwch wrth ddaioni.
10
Mewn brawdgarwch byddwch dyner eich serch tuag at eich gilydd; mewn rhoi parch yn rhagori ar eich gilydd;
11
mewn brwdfrydedd yn ddi-ildio; yn ferw eich ysbryd; yn gwasanaethu’r Arglwydd;
12
yn llawenhau mewn gobaith; yn ymgynnal dan orthrymder; yn dyfalbarhau mewn gweddi;
13
yn cyfrannu tuag at anghenion y saint; yn arfer lletygarwch.
14
Bendithiwch y rhai a’ch erlidia, bendithiwch ac na felltithiwch.
15
Llawenhewch gyda’r rhai a lawenhâ; wylwch gyda’r rhai a wyla.
16
Byddwch yn unfryd â’ch gilydd, heb roi eich bryd ar uchel bethau, ond bod yn gynefin â phethau distadl. Na fyddwch gall yn eich golwg eich hunain.
17
Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau anrhydeddus gerbron pob dyn.
18
Os yn bosibl, o’ch rhan chwi, boed heddwch rhyngoch a phob dyn.
19
Nac ymddielwch, anwyliaid; yn hytrach, rhowch gyfle i’w ddigofaint ef, canys ysgrifenedig yw: Myfi piau dialedd, myfi a dalaf yn ôl, medd yr Arglwydd.
20
Eithr os newyna dy elyn portha ef; os sycheda, dioda ef; canys wrth wneuthur hyn ti bentyrri farwor tanllyd ar ei ben.
21
Na’th goncrer di gan y drwg, eithr concra di y drwg trwy’r da.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16