bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 3
Romans 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
1
Pa beth, ynteu, yw mantais yr Iddew, neu pa beth yw budd yr enwaediad?
2
Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf oll, ymddiried iddynt oraclau Duw. Pa wahaniaeth?
3
Os anghredodd rhai, a ddiryma eu hanghrediniaeth hwy ffyddlondeb Duw?
4
Na ato! Yn hytrach caffer Duw yn eirwir ond pob dyn yn gelwyddog, fel yr ysgrifennwyd: Fel y cyfiawnhaer di yn dy eiriau, ac y gorchfygi pan farner di.
5
Eithr os dengys ein hanghyfiawnder ni gyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn Duw a ddwg arnom y digofaint? Yn null dyn y llefaraf.
6
Na ato! Canys yna pa fodd y barn Duw y byd?
7
Ond os ymhelaethodd gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i i’w ogoniant ef, paham y bernir finnau eto yn bechadur?
8
A phaham na ddywedwn, megis y ceblir ni, ac megis, medd rhywrai, y dywedwn, “gwnawn ddrygioni fel y delo daioni”? Cosb y cyfryw, cyfiawn yw.
9
Beth ynteu? A ragorir arnom ni? Dim o gwbl. Canys cyhuddasom eisoes Iddewon a Groegiaid, bawb, o fod dan bechod,
10
fel yr ysgrifennwyd: Nid oes cyfiawn, dim un.
11
Nid oes a ddeall, nid oes a gais Dduw;
12
Gŵyrodd pawb, ymlygrasant ynghyd; Nid oes a wnêl ddaioni, nid oes hyd yn oed un.
13
Bedd agored yw eu gwddf. Â’u tafodau twyllasant, Gwenwyn asbiaid dan eu gwefusau;
14
Eu genau sy’n llawn melltith a chwerwedd;
15
Buan eu traed i dywallt gwaed,
16
Distryw a thrueni yn eu ffyrdd.
17
A ffordd tangnefedd nid adnabuant.
18
Nid yw ofn Duw gerbron eu llygaid.
19
Gwyddom, pa bethau bynnag a ddywed y ddeddf, mai wrth y sawl sydd dan y ddeddf y llefara, fel y caeer pob genau ac y bo’r holl fyd dan farn Duw;
20
oherwydd trwy weithredoedd deddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei ŵydd ef. Canys trwy ddeddf y mae adnabyddiaeth o bechod.
21
Ond yn awr ar wahân i ddeddf y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu, a thystiolaeth iddo gan y ddeddf a’r proffwydi,
22
a hwnnw yn gyfiawnder Duw trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb a gred.
23
Canys nid oes gwahaniaeth; oblegid pechodd pawb, ac amddifad ydynt o ogoniant Duw,
24
a’u cyfiawnhau yn rhad gan ei ras ef, trwy’r brynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu,
25
yr hwn a osododd Duw yn gymod drwy ffydd, yn ei waed ef, i arddangos ei gyfiawnder: oherwydd myned heibio yn hirymaros Duw i’r pechodau a gyflawnwyd gynt,
26
fel yr arddangosai ei gyfiawnder y pryd hwn, ei fod ef yn gyfiawn ac yn gyfiawnhawr y neb sydd ganddo ffydd yn Iesu.
27
Pa le, gan hynny, yr ymffrost? Wedi ei gau allan. Trwy ba fath ddeddf? Gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd.
28
Canys cyfrifwn y cyfiawnheir dyn trwy ffydd, ar wahân i weithredoedd deddf.
29
Ai Duw i Iddewon yn unig ydyw? Onid i genhedloedd hefyd?
30
Ie, i genhedloedd hefyd, os yn wir un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad drwy ffydd, a’r dienwaediad drwy’r un ffydd.
31
A ydym felly yn dirymu deddf trwy ffydd? Na ato! Yn hytrach cadarnhau deddf yr ydym.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16