bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 15
Romans 15
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
1
A dylem ni, y rhai cryf, ddwyn gwendidau y rhai nad ydynt gryf, ac nid ein boddhau ein hunain.
2
Boddhaed pob un ohonom ei gymydog er daioni, i’w adeiladaeth.
3
Canys y Crist yntau nis boddhaodd ei hun; eithr fel yr ysgrifennwyd: Syrthiodd gwaradwyddiadau y sawl a’th waradwyddai di arnaf fi.
4
Oblegid pa bethau bynnag a ysgrifennwyd gynt, fe’u hysgrifennwyd er ein haddysgu, fel trwy amynedd a thrwy ddiddanwch yr ysgrythurau y caffom y gobaith.
5
A rhodded Duw’r amynedd a’r diddanwch i chwi fod yn unfryd ymhlith eich gilydd yn ôl Crist Iesu,
6
fel yn gytûn ag un genau y gogoneddoch Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist.
7
Am hynny derbyniwch eich gilydd megis y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.
8
Dywedyd yr wyf ddyfod Crist yn weinidog enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, i gadarnhau addewidion y tadau,
9
ac fel y gogoneddai’r cenhedloedd Dduw am ei drugaredd; fel yr ysgrifennwyd: Am hyn y clodforaf di ymhlith y cenhedloedd, ac i’th enw y canaf.
10
A thrachefn dywed: Llawenhewch genhedloedd gyda’i bobl ef.
11
A thrachefn: Molwch yr Arglwydd, yr holl genhedloedd, a chlodfored yr holl bobloedd ef.
12
A thrachefn, dywed Eseias: Bydd gwreiddyn o Jese, a chyfyd hwn i lywodraethu’r cenhedloedd; ynddo ef y gobeithia’r cenhedloedd.
13
Duw’r gobaith a’ch llanwo chwi â phob llawenydd a heddwch wrth gredu ohonoch, fel yr ymhelaethoch yn y gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.
14
Ond yr ydwyf yn sicr, fy mrodyr, ie, myfi fy hun amdanoch chwi, eich bod chwithau yn orlawn o ddaioni, wedi’ch llenwi â phob gwybodaeth, yn abl hefyd i gynghori eich gilydd.
15
Eithr ysgrifennais yn fwy hy atoch i fesur, megis un yn eich atgoffa, oherwydd y gras a roddwyd i mi gan Dduw
16
fel y byddwn wasanaethwr Crist Iesu i’r cenhedloedd, yn offeiriadu yn efengyl Duw, fel y byddai’r offrwm, y cenhedloedd, yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio trwy’r Ysbryd Glân.
17
Y mae i mi gan hynny ymffrost yng Nghrist Iesu yn y pethau a berthyn i Dduw.
18
Canys ni feiddiaf sôn am ddim ond a gyflawnodd Crist trwof fi er ufudd-dod cenhedloedd, mewn gair a gweithred,
19
trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth yr Ysbryd Glân; ac felly cyflawnais efengyl y Crist o Jerwsalem ac o amgylch hyd Ilyricwm,
20
eto â’r uchelgais hwn gennyf, i gyhoeddi’r efengyl nid lle’r enwasid Crist, fel nad adeiladwn ar sail un arall,
21
eithr fel yr ysgrifennwyd: Fe wêl y rheini na fynegwyd iddynt amdano, ac fe ddealla’r rheini na chlywsant.
22
Oherwydd hyn y rhwystrwyd fi hefyd gynifer gwaith rhag dyfod atoch.
23
Ond yn awr, gan nad oes gennyf gyfle mwyach yn y parthau hyn, a bod arnaf hiraeth am ddyfod atoch ers llawer blwyddyn,
24
pan elwyf i’r Hispaen (canys gobeithiaf ar fy ffordd gael golwg arnoch a’m hebrwng gennych yno, os caf yn gyntaf fy niwallu â’ch cymdeithas dros dro);
25
ond yn awr yr wyf yn mynd i Jerwsalem i weini i’r saint.
26
Canys bu’n dda gan Facedonia ac Achaia drefnu cronfa i dlodion y saint yn Jerwsalem;
27
bu’n dda ganddynt, meddaf, ac y maent yn eu dyled; canys os o’u pethau ysbrydol hwy y cyfranogodd y cenhedloedd, dylent hwy yn eu tro eu gwasanaethu hwythau mewn pethau cnawdol.
28
Wedi cwblhau hyn, felly, a sicrhau iddynt y ffrwyth hwn, af ymaith i’r Hispaen, heibio i chwi;
29
a gwn wrth ddyfod atoch y deuaf yng nghyflawnder bendith Crist.
30
Ond erfyniaf arnoch, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Ysbryd, ymdrechu gyda mi yn eich gweddïau trosof ar Dduw,
31
fel y gwareder fi rhag yr anghredinwyr yn Jwdea, a bod fy ngweinidogaeth yn Jerwsalem yn gymeradwy gan y saint,
32
fel, a mi yn dyfod atoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw, y caffwyf orffwys yn eich plith.
33
A bydded Duw’r heddwch gyda chwi oll. Amen.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16