bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 5
Romans 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
Am hynny, a nyni wedi ein cyfiawnhau o ffydd, bydded gennym heddwch tuag at Dduw trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
2
yr hwn y cawsom drwyddo ein mynediad hefyd mewn ffydd i’r gras hwn y safwn ynddo, ac ymffrostiwn mewn gobaith am ogoniant Duw.
3
Ac nid hynny’n unig, eithr ymffrostiwn hefyd yn ein gorthrymderau, gan wybod bod gorthrymder yn cynhyrchu amynedd,
4
ac amynedd brofiad, a phrofiad obaith;
5
a’r gobaith hwn ni sioma, oherwydd tywallt cariad Duw yn ein calonnau, trwy’r Ysbryd Glân a roddwyd i ni.
6
Canys Crist, a ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros annuwiolion.
7
Canys prin y bydd neb farw dros un cyfiawn; dros ddyn da efallai y beiddiai un hyd yn oed farw;
8
ond fe brawf Duw ei gariad ei hun tuag atom, gan i Grist, a ni eto yn bechaduriaid, farw trosom.
9
Mwy o lawer, ynteu, a ni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed, yr achubir ni trwyddo ef rhag y digofaint.
10
Canys os cymodwyd ni, a ni yn elynion, â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer, wedi ein cymodi, yr achubir ni trwy ei fywyd ef;
11
ac nid hynny’n unig, ond yr ydym hefyd yn ymffrostio yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, y cawsom yn awr y cymod drwyddo.
12
Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i mewn i’r byd a thrwy bechod farwolaeth, felly hefyd aeth marwolaeth rhagddi ar bob dyn, oherwydd i bawb bechu;
13
canys yr oedd pechod yn y byd cyn deddf, ond ni chyfrifir pechod heb fod deddf.
14
Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y sawl na phechasant yn nhebygrwydd trosedd Adda, yr hwn sydd batrwm yr un a oedd i ddyfod.
15
Eithr nid fel y camwedd, felly hefyd y dawn; canys os trwy gamwedd yr un y bu farw’r lliaws, mwy o lawer yr ymhelaethodd i’r lliaws ras Duw, a’r rhodd drwy ras yr un dyn Iesu Grist.
16
Ac nid megis trwy bechu o un y mae y rhodd; canys daeth y farn oddi wrth un i gondemniad, ond y dawn oddi wrth gamweddau lawer i gyfiawnhad.
17
Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y bydd i’r rhai a dderbyn helaethrwydd o ras ac o rodd cyfiawnder deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist.
18
Am hynny, ynteu, megis trwy un camwedd y daeth y farn i bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un weithred gyfiawn y daeth y dawn i bob dyn i gyfiawnhad bywyd.
19
Canys, megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaed y lliaws yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd-dod un y gwneir y lliaws yn gyfiawn.
20
Ond daeth deddf i mewn fel y cynyddai y camwedd, eithr lle cynyddodd pechod, tra-ymhelaethodd gras,
21
fel, megis y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16