bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 7
Romans 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
1
Ai heb wybod yr ydych, frodyr, canys wrth rai a ŵyr am ddeddf y llefaraf, mai cyhyd ag y bo byw dyn yr arglwyddiaetha’r ddeddf arno?
2
Rhwym trwy ddeddf i’w gŵr yw’r wraig briod, ac ef yn fyw; ond os bydd marw’r gŵr, y mae’n gwbl rydd oddi wrth ddeddf y gŵr.
3
Am hynny, ynteu, a’r gŵr yn fyw, fe gaiff yr enw godinebwraig os â yn eiddo gŵr arall. Eithr os bydd marw’r gŵr, rhydd ydyw oddi wrth y ddeddf, fel nad godinebwraig mohoni, ei dyfod yn eiddo gŵr arall.
4
Felly, fy mrodyr, gwnaed chwithau yn farw i’r ddeddf trwy gorff Crist, fel y delech yn eiddo arall, sef yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.
5
Canys pan oeddem yn y cnawd, nwydau pechodau, y rhai sydd trwy’r ddeddf, a ymegnïai yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth;
6
ond yn awr yr ydym yn gwbl rydd oddi wrth y ddeddf, wedi marw ohonom i’r peth yr oeddem yn ei afael, fel yr ydym yn gaethion ym myd newydd ysbryd, ac nid yn hen fyd llythyren.
7
Beth gan hynny a ddywedwn? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato! Er hynny, nid adwaenwn i bechod ond trwy ddeddf; ni wyddwn i am chwant, oni bai ddywedyd o’r ddeddf na thrachwanta.
8
Eithr pechod, wedi cael cyfle, a weithiodd ynof drwy’r gorchymyn bob chwant,
9
canys ar wahân i ddeddf y mae pechod yn farw. A myfi, byw oeddwn gynt ar wahân i ddeddf,
10
ond wedi dyfod y gorchymyn, daeth pechod yn fyw, eithr bûm i farw, a’r gorchymyn a oedd i fywyd, caed hwn i mi i farwolaeth;
11
canys pechod, wedi cael cyfle, trwy’r gorchymyn a’m twyllodd, a thrwyddo a’m lladdodd.
12
Felly y mae’r ddeddf yn sanctaidd, a’r gorchymyn yn sanctaidd a chyfiawn a da.
13
Gan hynny, a ddaeth yr hyn sy dda i mi yn farwolaeth? Na ato! Yn hytrach, pechod a fu felly, fel yr amlygid ef yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi drwy’r hyn sy dda, fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn bechadurus i’r eithaf.
14
Canys gwyddom fod y ddeddf yn ysbrydol, ond myfi, cnawdol ydwyf, wedi fy ngwerthu dan bechod.
15
Y peth a gyflawnaf, nid adwaen; canys nid a ewyllysiaf a wnaf, ond a gasâf, hynny a wnaf.
16
Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, cydsyniaf â’r ddeddf ei bod yn dda.
17
Felly yn awr, nid myfi mwyach sy’n ei gyflawni, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi.
18
Canys gwn na chartrefa ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da. Canys ewyllysio sydd barod gennyf, ond cyflawni’r da, nid yw.
19
Oherwydd y peth da a ewyllysiaf ni wnaf, ond y peth drwg nad ewyllysiaf a wnaf.
20
Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, nid myfi mwyach a’i cyflawna, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi.
21
Caf felly yn ddeddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur y peth sy dda, mai’r peth sy ddrwg sydd barod gennyf;
22
canys cyd-ymhyfrydaf â deddf Duw yn ôl y dyn oddi mewn,
23
ond gwelaf ddeddf wahanol yn fy aelodau, yn milwrio yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo dan ddeddf pechod y sydd yn fy aelodau.
24
Druan ddyn fyfi! pwy a’m gwared oddi wrth y corff marw hwn?
25
Diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Am hynny, ynteu, yr wyf fi fy hun, o ran y meddwl, yn gaeth i ddeddf Duw, ond o ran y cnawd, i ddeddf pechod.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16