bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 14
Romans 14
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Y gwan ei ffydd derbyniwch, nid i roi barn ar opiniynau.
2
Un, sy ganddo ffydd i fwyta popeth; arall, y gwan, llysiau a fwyty.
3
Y neb a fwyty, na ddiystyred y sawl ni fwyty, a’r neb na fwyty, na farned y sawl a fwyty, canys derbyniodd Duw ef.
4
Pwy wyt ti i farnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y saif neu y syrth; a pherir iddo sefyll, canys fe all yr Arglwydd beri iddo.
5
Barn un ddiwrnod yn uwch na diwrnod, barn arall bob diwrnod yn gyfwerth; boed pob un yn gwbl sicr yn ei feddwl ei hun.
6
Y neb a esyd ei fryd ar ddiwrnod, i’r Arglwydd y’i gesyd; a’r neb a fwyty, i’r Arglwydd y bwyty, canys y mae’n diolch i Dduw; a’r neb na fwyty, i’r Arglwydd ni fwyty, ac y mae yntau yn diolch i Dduw.
7
Canys nid yw neb ohonom yn byw iddo’i hun, ac nid yw neb yn marw iddo’i hun.
8
Canys os byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw.
9
Gan hynny, pa un ai byw ai marw, eiddo’r Arglwydd ydym. Canys i hyn y bu Crist farw a dyfod yn fyw, fel y byddai yn Arglwydd y meirw a’r byw.
10
Eithr tydi, paham y berni dy frawd? Neu tithau, paham y dirmygi dy frawd? Bydd i bawb ohonom sefyll gerbron brawdle Duw.
11
Canys ysgrifennwyd: Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, i mi y plyg pob glin, ac i Dduw y dyry pob tafod fawl.
12
Felly, ynteu, dyry pob un ohonom gyfrif amdano’i hun i Dduw.
13
Gan hynny, na farnwn ein gilydd mwyach; yn hytrach bernwch fel hyn, na roddoch dramgwydd i frawd, neu rwystr.
14
Gwn, ie, sicr ydwyf yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono’i hun; ond i’r neb a dybio bod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.
15
Canys os poenir dy frawd o achos bwyd, nid wyt mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddinistria â’th fwyd hwnnw y bu Crist farw drosto.
16
Nac aed yn gabledd gan hynny y peth da sy gennych.
17
Canys nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
18
Oblegid y neb sy gaethwas yn hyn i Grist sydd wrth fodd Duw a chymeradwy gan ddynion.
19
Dilyn felly yr ydym y pethau sydd er heddwch a’r pethau sydd er adeiladaeth ein gilydd.
20
Na ddymchwel waith Duw er mwyn bwyd. Glân yw popeth, eithr drwg yw i’r dyn a fwyty er gwaethaf tramgwydd.
21
Da yw peidio â bwyta cig neu yfed gwin neu wneuthur dim y tramgwyddo dy frawd wrtho.
22
Y ffydd sydd gennyt, bydded gennyt wrthyt dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd y neb nis barno ei hun yn y peth a gymeradwya.
23
Ond y neb a betrusa a gondemniwyd, os bwyty, am nas gwna oddi ar ffydd; a phopeth ni wneir oddi ar ffydd, pechod yw.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16