bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 4
Romans 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
1
Beth, gan hynny, a ddywedwn i Abraham, ein cyndad yn ôl y cnawd, ei ennill?
2
Oblegid os o weithredoedd y cyfiawnhawyd Abraham, y mae iddo ymffrost, ond nid gerbron Duw.
3
Oherwydd beth a ddywed yr Ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw, ac fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
4
Ond i’r neb a weithia ni chyfrifir ei gyflog yn ffafr eithr yn ddyled;
5
ond i’r neb ni weithreda, eithr a gred yn yr hwn sy’n cyfiawnhau’r annuwiol, cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder,
6
megis y dywed Dafydd hefyd am wynfyd y dyn y cyfrif Duw iddo gyfiawnder ar wahân i weithredoedd:
7
Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd iddynt eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau.
8
Gwyn ei fyd y gŵr ni chyfrif yr Arglwydd byth bechod iddo.
9
Y gwynfyd hwn, yn awr, ai i’r enwaediad y mae ai i’r dienwaediad hefyd? Oherwydd dywedyd yr ydym: Cyfrifwyd i Abraham ffydd yn gyfiawnder.
10
Pa fodd, ynteu, y cyfrifwyd? Ai iddo yn enwaededig neu yn ddienwaededig? Nid enwaededig, ond dienwaededig;
11
a derbyniodd arwydd enwaediad, sêl cyfiawnder y ffydd a oedd ganddo yn ddienwaededig, fel y byddai ef dad pawb a gred o’r dienwaediad, fel y cyfrifid iddynt gyfiawnder,
12
a thad yr enwaediad, i’r rhai sydd nid yn unig o’r enwaediad, ond sydd hefyd yn cerdded llwybrau ffydd ein tad Abraham, ac yntau’n ddienwaededig.
13
Canys nid drwy ddeddf y bu’r addewid i Abraham nac i’w had, ei fod ef yn etifedd byd, ond drwy gyfiawnder ffydd.
14
Canys os y rhai sydd o ddeddf sydd etifeddion, gwnaed ffydd yn ddi-fudd a’r addewid yn ddi-rym,
15
canys gweithreda’r ddeddf ddigofaint; ond lle nid oes deddf, nid oes trosedd.
16
Oherwydd hyn y bu o ffydd, fel y byddai yn ôl gras, er mwyn i’r addewid fod yn sicr i’r holl had, nid i’r rhai sydd o’r ddeddf yn unig, ond hefyd i’r neb sydd o ffydd Abraham — yr hwn yw ein tad ni oll
17
(fel yr ysgrifennwyd: Yn dad cenhedloedd lawer y gosodais di) — gerbron Duw, yr hwn y credodd iddo, y Duw a fywha’r meirw, ac a eilw ar bethau nad ydynt fel pe byddent;
18
hwn, ar bwys gobaith a gredodd yn erbyn gobaith, fel y delai yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl a ddywedwyd: Felly y bydd dy had di;
19
a heb wanhau yn ei ffydd gwybu farweiddio ei gorff ei hun, gan ei fod ynghylch can mlwydd oed, a marw bru Sara,
20
eto yn wyneb addewid Duw ni phetrusodd trwy anghrediniaeth, ond ymgryfhaodd trwy ei ffydd, a rhoddodd ogoniant i Dduw,
21
yn llawn sicrwydd ei fod yn abl i gyflawni hefyd yr hyn a addawodd.
22
Ac oherwydd hyn fe’i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23
Eithr nid ysgrifennwyd cyfrifwyd iddo, ac ef yn unig mewn golwg,
24
ond a ninnau hefyd y rhai y byddir yn cyfrif iddynt, sy’n credu ynddo ef a gododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw,
25
yr hwn a draddodwyd oherwydd ein camweddau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16