bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 2
Romans 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
Gan hynny diesgus wyt ti, ddyn, pwy bynnag wyt sy’n barnu; oblegid yn y peth y berni arall yr wyt yn dy gondemnio dy hun, canys yr wyt ti, y barnwr, yn gwneuthur yr un pethau.
2
A gwyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd ar y sawl a wna’r cyfryw bethau.
3
Ac a dybi di hyn, ddyn, tydi sy’n barnu’r sawl a wna’r cyfryw bethau, a thithau yn eu gwneuthur, y dihengi di rhag barn Duw?
4
Neu a ddirmygi di olud ei diriondeb, a’i oddefgarwch, a’i hirymaros, heb wybod bod tiriondeb Duw yn d’arwain di i edifeirwch?
5
Ond drwy dy galedwch a’th galon ddiedifar trysori yr wyt i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw,
6
yr hwn a ddyry i bob un yn ôl ei weithredoedd;
7
i’r naill, yn ddygn mewn gwaith da, a gais ogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth, fywyd tragwyddol;
8
i’r lleill, y cynhennus ac anufudd i’r gwirionedd ond ufudd i anghyfiawnder,
9
bydd digofaint a llid, gorthrymder a chyfyngder ar bob enaid o ddyn a gyflawna’r peth sy ddrwg, Iddew yn gyntaf, a Groegwr;
10
eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un a wna’r peth sy dda, Iddew yn gyntaf, a Groegwr.
11
Canys nid oes derbyn wyneb gyda Duw.
12
Oblegid cynifer ag a bechodd heb ddeddf, heb ddeddf a gollir hefyd; a chynifer ag a bechodd dan ddeddf, wrth ddeddf a fernir;
13
canys nid gwrandawyr deddf sy gyfiawn gyda Duw, ond gweithredwyr deddf a gyfiawnheir.
14
Oherwydd pan fo Cenhedloedd nad oes deddf ganddynt yn gwneuthur wrth natur bethau’r ddeddf, hwynt-hwy, heb ddeddf ganddynt, sy ddeddf iddynt eu hunain,
15
y rhai a ddengys waith y ddeddf yn ysgrifenedig ar eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd-dystio, a’u rhesymau rhyngddynt a’i gilydd yn cyhuddo neu efallai yn amddiffyn;
16
yn y dydd y barn Duw gudd bethau dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.
17
Ond tydi, os Iddew yr enwir di, a gorffwys ohonot ar ddeddf, ac ymffrostio yn Nuw,
18
a gwybod ei ewyllys, a chymeradwyo’r pethau sy’n rhagori, am dy hyfforddi o’r ddeddf,
19
a chennyt hyder amdanat dy hun, dy fod yn arweinydd deillion, yn oleuni’r sawl sy mewn tywyllwch,
20
yn ddisgyblydd rhai angall, yn athro rhai bach, am fod gennyt yn y ddeddf gynllun gwybodaeth a gwirionedd,
21
ti, ynteu, sy’n dysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? Ti, sy’n pregethu na ladrater, a ladreti di?
22
Ti, sy’n dywedyd na odineber, a odinebi di? Ti, sy’n ffieiddio eilunod, a ysbeili di demlau?
23
Ti, sy’n ymffrostio mewn deddf, a ddianrhydeddi di Dduw trwy droseddu’r ddeddf?
24
Canys enw Duw o’ch achos chwi a geblir ymhlith y cenhedloedd, fel yr ysgrifennwyd.
25
Buddiol yn ddiau yw enwaediad, os cedwi ddeddf, ond os troseddwr deddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad.
26
Os bydd i’r dienwaediad, felly, gadw ordeiniadau’r ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad yn enwaediad?
27
A’r dienwaediad wrth natur, drwy gyflawni’r ddeddf, a’th farn di, sydd gyda’th lythyren a’th enwaediad yn droseddwr deddf.
28
Canys nid yr Iddew oddi allan sydd Iddew, ac nid yr enwaediad oddi allan mewn cnawd sydd enwaediad;
29
yn hytrach yr Iddew oddi mewn sydd Iddew, ac enwaediad calon, mewn ysbryd nid mewn llythyren, sydd enwaediad, a’i glod, nid o ddynion ond o Dduw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16