bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 6
Romans 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
1
Beth ynteu a ddywedwn? A ydym i lynu wrth bechod fel y cynyddo gras?
2
Na ato! A ni wedi marw i bechod, pa fodd mwyach y byddwn byw ynddo?
3
Ai heb wybod yr ydych am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, mai i’w farwolaeth y bedyddiwyd ni?
4
Claddwyd ni gydag ef felly trwy fedydd i farwolaeth, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau mewn newydd-deb bywyd.
5
Canys os tyfasom yn un â chyffelybrwydd ei farwolaeth, byddwn felly hefyd â chyffelybrwydd ei atgyfodiad,
6
gan ddeall hyn, ddarfod cyd-groeshoelio ein hen ddyn ni, fel y dirymer ein corff pechadurus, fel na byddom gaeth i bechod mwyach.
7
Oblegid y mae’r marw yn rhydd oddi wrth bechod.
8
Ac os buom farw gyda Christ, yr ydym yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef,
9
am y gwyddom nad yw Crist, ac yntau wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn marw mwy; nid yw marwolaeth yn feistr arno mwy.
10
Canys am ei farw, i bechod y bu farw unwaith, ond am ei fyw, byw y mae i Dduw.
11
Yr un modd, chwithau, cyfrifwch eich hunain yn farw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu.
12
Gan hynny, na theyrnased pechod yn eich corff marwol, i ufuddhau i’w chwantau,
13
ac na chyflwynwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, ond cyflwynwch eich hunain i Dduw, megis o farw yn fyw, a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw;
14
canys ni bydd pechod yn feistr arnoch chwi, oblegid nid ydych dan ddeddf ond dan ras.
15
Beth gan hynny? A ydym i bechu, oblegid nad ydym dan ddeddf ond dan ras? Na ato!
16
Oni wyddoch am bwy bynnag y cyflwynwch chwi eich hunain iddo yn gaethion i ufudd-dod, eich bod yn gaethion i’r neb yr ufuddhewch iddo, naill ai pechod i farwolaeth, neu ufudd-dod i gyfiawnder?
17
Ond diolch i Dduw! caethion pechod oeddech, ond ufuddhasoch o galon i batrwm dysgeidiaeth y traddodwyd chwi iddo,
18
ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod caethiwyd chwi i gyfiawnder.
19
Ar wedd ddynol y llefaraf, oherwydd gwendid eich cnawd. Megis y cyflwynasoch eich aelodau yn gaethion i aflendid ac anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr cyflwynwch eich aelodau yn gaethion i gyfiawnder er sancteiddrwydd.
20
Canys pan oeddech gaethion pechod, rhydd oeddech o ran cyfiawnder.
21
Pa ffrwyth, ynteu, oedd i chwi y pryd hwnnw? Pethau y cywilyddiwch yn awr o’u plegid, oblegid diwedd y rheini yw marwolaeth.
22
Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod a’ch caethiwo i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol.
23
Canys cyflog pechod, marwolaeth yw, ond dawn Duw, bywyd tragwyddol yw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16