bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 10
Romans 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
Frodyr, dymuniad fy nghalon a’m deisyfiad ar Dduw drostynt sydd am eu hiachawdwriaeth.
2
Canys tystiaf iddynt fod ganddynt sêl dros Dduw, eithr nid yn ôl adnabyddiaeth ohono.
3
Oblegid, heb wybod cyfiawnder Duw, a cheisio sefydlu yr eiddynt eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.
4
Canys Crist yw diwedd deddf, er cyfiawnder i bawb a gred.
5
Canys ysgrifenna Moses am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, mai’r dyn a’i gwna a fydd byw trwyddo.
6
Ond y cyfiawnder sydd o ffydd, fel hyn y dywed: Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nefoedd? Hynny yw, i ddwyn Crist i waered;
7
neu, Pwy a ddisgyn i’r dyfnder? Hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw.
8
Eithr beth a ddywed? Agos atat yw’r gair, yn dy enau ac yn dy galon; hynny yw, y gair am ffydd a gyhoeddwn ni.
9
Canys os cyffesi â’th enau Iesu yn Arglwydd, a chredu â’th galon i Dduw ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, achubir di.
10
Oherwydd â’r galon y credir er cyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir er iachawdwriaeth.
11
Canys dywed yr ysgrythur: Pob un a gred ynddo, nis siomir.
12
Nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr, oblegid yr un Arglwydd sydd i bawb, yn gyfoethog tuag at bawb a eilw arno,
13
oblegid pob un a alwo ar enw’r Arglwydd a achubir.
14
Pa fodd gan hynny y galwant ar un na chredasant ynddo? A pha fodd y credant mewn un nas clywsant? A pha fodd y clywant heb neb yn cyhoeddi?
15
A pha fodd y cyhoeddant onis danfonir? Fel yr ysgrifennwyd: Brydferthed traed efengylwyr pethau da.
16
Eithr nid ufuddhaodd pawb i’r efengyl. Canys dywed Eseias: Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?
17
Felly ffydd, o glywed y daw, a’r clywed trwy air Crist.
18
Ond efallai, meddaf, na chlywsant? Yn wir, do, i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn allan, ac i derfynau’r byd eu geiriau.
19
Ond efallai, meddaf, na wybu Israel? Yn gyntaf dywed Moses: Paraf i chwi eiddigeddu wrth un nad yw genedl, wrth genedl ddiddeall y paraf i chwi ddigio.
20
Ac Eseias yn hy iawn a ddywed: Cafwyd fi ganddynt hwy na’m ceisient, gwnaed fi yn amlwg iddynt hwy nad ymofynnent â mi.
21
Ond am Israel dywed: Trwy gydol y dydd estynnais allan fy nwylo at bobl anufudd a chroes.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16