bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 16
Romans 16
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Cyflwynaf i chwi Phebe, ein chwaer, y sydd weinidoges yr eglwys yn Cenchreai,
2
fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd yn deilwng o’r saint, a rhoi cymorth iddi ym mha achos bynnag y bo arni eich eisiau, oblegid bu hithau yn gymorth i lawer, ac i mi fy hun.
3
Cyferchwch Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu
4
(y rhai er mwyn fy einioes i a beryglodd eu gwddf eu hunain, ac y diolchir iddynt, nid yn unig gennyf fi ond hefyd gan holl eglwysi’r cenhedloedd),
5
a’r eglwys yn eu tŷ. Cyferchwch Epainetos, fy anwylyd, y sydd flaenffrwyth Asia i Grist.
6
Cyferchwch Mair, a lafuriodd lawer er eich mwyn chwi.
7
Cyferchwch Andronicos a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd-garcharorion, y rhai sydd nodedig ymhlith yr apostolion, ac a oedd yn wir o’m blaen i yng Nghrist.
8
Cyferchwch Ampliatos, fy anwylyd yn yr Arglwydd.
9
Cyferchwch Wrbanos, ein cyd-weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.
10
Cyferchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Cyferchwch deulu Aristobwlos.
11
Cyferchwch Herodion, fy nghâr. Cyferchwch y rheini o deulu Narcisos sydd yn yr Arglwydd.
12
Cyferchwch Tryffaina a Thryffosa, a lafuria yn yr Arglwydd. Cyferchwch Persis, yr anwylyd, a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd.
13
Cyferchwch Rwffos, y dewisol yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau.
14
Cyferchwch Asyncritos, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermas, a’r brodyr sydd gyda hwynt.
15
Cyferchwch Philologos, a Jwlia, Neriws a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint sy gyda hwynt.
16
Cyferchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Eich cyfarch chwi y mae holl eglwysi Crist.
17
Erfyn yr wyf arnoch, frodyr, wylio’r sawl a bair yr ymraniadau a’r rhwystrau yn groes i’r ddysgeidiaeth a gawsoch, a throwch oddi wrthynt;
18
canys caeth yw’r cyfryw, nid i’n Harglwydd Crist, ond i’w cylla eu hunain, a thrwy ymadrodd teg a gweniaith twyllant galonnau’r diddrwg.
19
Canys cyrhaeddodd eich ufudd-dod hyd at bawb. O’ch plegid chwi gan hynny yr wyf yn llawenhau, ond mynnwn i chwi fod yn ddoeth yn y peth sy dda, a diniwed yn y peth sy ddrwg.
20
Ac yn fuan mathra Duw’r heddwch Satan dan eich traed. Bydded gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi.
21
Eich cyfarch y mae Timotheos, fy nghydweithiwr, a Luc, a Jason a Sosipater, fy ngheraint.
22
Eich cyfarch yr wyf finnau, Tertios, sy’n ysgrifennu’r llythyr, yn yr Arglwydd.
23
Eich cyfarch y mae Gaios, fy lletywr i a’r holl eglwys. Eich cyfarch y mae Erastos, goruchwyliwr y ddinas, a’r brawd Cwartos.
25
Iddo ef sy’n alluog i’ch cadarnhau chwi yn ôl fy efengyl i a’r cyhoeddi am Iesu Grist, yn ôl datguddiad dirgelwch na bu sôn amdano trwy’r amseroedd tragwyddol,
26
ond yn awr a amlygwyd ac a wnaed yn hysbys trwy ysgrythurau proffwydol, yn ôl gosodiad y tragwyddol Dduw, er ufudd-dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd:
27
i’r unig, ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist: iddo ef boed y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16