bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 13
Romans 13
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
1
Ymostynged pob enaid i awdurdodau sy trosto. Canys nid oes awdurdod oddieithr gan Dduw, a’r rheini y sydd, gan Dduw y gosodwyd hwynt.
2
Felly y mae’r neb a’i gesyd ei hun yn erbyn yr awdurdod yn gwrthwynebu gosodiad Duw, a derbynia’r gwrthwynebwyr ddedfryd arnynt eu hunain.
3
Canys nid yw swyddogion yn achos ofn i’r weithred dda, ond i’r weithred ddrwg. Ond a ddymuni fod heb ofni’r awdurdod? Gwna’r peth sy dda, a chei glod ganddo;
4
canys gweinidog Duw ydyw i ti er daioni. Ond os y peth sy ddrwg a wnei, ofna, oblegid ni wisg ef y cleddyf yn ofer; canys gweinidog Duw ydyw, yn dial er digofaint ar y drwgweithredwyr.
5
Felly rhaid yw ymostwng, nid yn unig o achos y digofaint, eithr o achos cydwybod hefyd.
6
O achos hyn yr ydych yn talu pob teyrnged hefyd; canys cyfrwng Duw ydyw yn dyfal weithredu i’r un peth hwn.
7
Telwch i bawb eich dyledion, teyrnged i’r neb y mae arnoch deyrnged, treth i’r neb y mae arnoch dreth, ofn i’r neb y mae arnoch ofn, parch i’r neb y mae arnoch barch.
8
Na foed arnoch ddim dyled i neb, oddieithr i garu eich gilydd; oblegid a garo arall a gyflawnodd y ddeddf.
9
Canys y gorchmynion hyn: Na odineba, na ladd, na ladrata, na thrachwanta, ac os oes unrhyw orchymyn arall, fe’u crynhoir yn un yn y gair hwn: Câr dy gymydog fel ti dy hun.
10
Ni phair cariad ddrwg i gymydog; gan hynny y mae cariad yn gyfiawnder deddf.
11
A hyn hefyd, am eich bod yn gwybod yr amser, ei bod yn bryd i chwi ddeffroi o gwsg; canys yn awr y mae ein hiachawdwriaeth yn nes na phan gredasom.
12
Aeth y nos rhagddi ymhell ac y mae’r dydd yn agos. Diosgwn gan hynny weithredoedd y tywyllwch, ac ymwisgwn ag arfau’r goleuni.
13
Rhodiwn yn weddaidd megis yn y dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn godineb ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen.
14
Yn hytrach ymwisgwch â’r Arglwydd Iesu Grist, ac na ragfeddyliwch am y cnawd, i foddio ei chwantau.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16