bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Romans 9
Romans 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
1
Gwir a ddywedaf yng Nghrist, nid dywedyd celwydd yr wyf, a’m cydwybod yn cyd-dystio â mi yn yr Ysbryd Glân,
2
fod i mi ofid mawr a loes dibaid i’m calon.
3
Mynnwn fy mod i fy hun yn anathema, wedi fy ngwahanu oddi wrth y Crist, er mwyn fy mrodyr, fy ngheraint yn ôl y cnawd,
4
y rhai sy’n Israeliaid: eiddynt hwy y mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a rhoddi’r ddeddf, a’r addoliad, a’r addewidion;
5
eiddynt hwy y tadau, ac ohonynt hwy y Crist o ran y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
6
Nid yn unig nid di-rym gair Duw (canys nid Israel bawb sydd o Israel,
7
ac nid plant chwaith bawb oblegid eu bod yn had Abraham), yn hytrach, yn Isaac y gelwir i ti had.
8
Hynny yw, nid plant y cnawd sydd blant Duw, ond plant yr addewid a gyfrifir yn had.
9
Canys gair addewid yw hwn: Ynghylch y pryd hwn y deuaf, a bydd i Sara fab.
10
Ac nid hynny’n unig, ond Rebecca hefyd, wedi iddi feichiogi o’r un hwnnw, Isaac ein tad ni —
11
canys a hwy eto heb eu geni, a heb wneuthur dim da na drwg, fel y safai bwriad Duw mewn etholedigaeth, nid o weithredoedd, eithr ohono ef sy’n galw —
12
dywedwyd wrthi: Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf;
13
fel yr ysgrifennwyd: Jacob a gerais, ond Esau a gaseais.
14
Pa beth gan hynny a ddywedwn? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato!
15
Canys dywed wrth Moses: Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhawyf, a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiwyf.
16
Felly, nid bod ewyllysio, na bod rhedeg, ond bod Duw yn trugarhau.
17
Canys dywed yr ysgrythur wrth Pharao: I’r union beth hwn y cyfodais di, fel yr arddangoswn ynot fy ngallu, a chyhoeddi fy enw trwy’r holl ddaear.
18
Am hynny wrth y neb a fynno y trugarha, a’r neb a fynno a galeda.
19
Dywedi wrthyf, felly, “Paham y beia mwy? Oherwydd pwy a saif yn erbyn ei bwrpas ef?”
20
Yn hytrach, ddyn, pwy wyt ti sy’n rhoi ateb yn ôl i Dduw? A ddywed y peth a luniwyd wrth ei luniwr, “Paham y gwnaethost fi fel hyn?”
21
Onid oes i’r crochenydd awdurdod ar y clai, i wneuthur o’r un telpyn, un yn llestr i barch, a’r llall i amarch?
22
Ond os Duw, yn ewyllysio arddangos ei ddigofaint ac amlygu ei allu, a oddefodd mewn hirymaros mawr lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i ddinistr,
23
oni bu hefyd fel yr amlygai olud ei ogoniant tuag at lestri trugaredd, a ragbaratôdd i ogoniant,
24
sef nyni, a alwodd ef hefyd, nid yn unig o blith Iddewon, eithr o blith cenhedloedd yn ogystal?
25
Megis y dywed hefyd yn Hosea: Galwaf y rhai nad ydynt bobl i mi fy mhobl, a honno nad anwylwyd yn annwyl;
26
ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, “nid fy mhobl ydych chwi,” yno y gelwir hwy yn feibion Duw byw.
27
A llefa Eseias am Israel: Pe bai rhif meibion Israel fel tywod y môr, y gweddill a achubir;
28
canys cyflawna’r Arglwydd ei air ar y ddaear, yn llwyr a therfynol.
29
Ac, fel y dywedodd Eseias o’r blaen: Pe ni adawsai Arglwydd y Sabaoth i ni had, fel Sodom y buasem, ac fel Gomorra y gwnaethid ni.
30
Pa beth, gan hynny, a ddywedwn? Darfod i genhedloedd na ddilynent gyfiawnder gael gafael ar gyfiawnder, a hwnnw’n gyfiawnder trwy ffydd;
31
ond Israel, er dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd mo’r ddeddf.
32
Paham? Oherwydd iddi ddilyn, nid drwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd. Tramgwyddasant wrth y maen tramgwydd,
33
fel yr ysgrifennwyd: Wele, gosodaf yn Seion faen tramgwydd a chraig rhwystr, a’r neb a gred ynddo, nis siomir.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16