bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 12
Ezekiel 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 13 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2
“Ddyn, mae'r bobl rwyt ti'n byw gyda nhw yn griw o rebeliaid. Mae ganddyn nhw lygaid, ond dŷn nhw'n gweld dim byd! Mae ganddyn nhw glustiau, ond dŷn nhw'n clywed dim byd! Criw o rebeliaid ydyn nhw!
3
“Felly dyma dw i eisiau i ti ei wneud: Pacia dy fag fel taset ti'n ffoadur yn dianc o'i gartref ac yn paratoi i fynd i ffwrdd i rywle arall. Gwna hyn yng ngolau dydd, fel bod pawb yn gallu gweld beth ti'n wneud. Falle y gwnân nhw ddeall eu bod nhw'n griw anufudd.
4
Gad iddyn nhw dy weld di yn pacio dy fag gyda'r pethau rwyt ti eu hangen. Yna gyda'r nos rwyt i fynd i ffwrdd o'u blaenau nhw, yn union fel byddai ffoadur yn gwneud.
5
Gad iddyn nhw dy weld di yn torri twll yn y wal, ac yn mynd â dy bac allan trwyddo.
6
Yna rho dy bac ar dy gefn, a cherdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu. Gorchuddia dy wyneb, a paid edrych yn ôl ar y tir. Dw i'n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel.”
7
Felly dyma fi'n gwneud yn union beth ddwedodd Duw wrtho i. Yn ystod y dydd dyma fi'n pacio pethau i fynd i ffwrdd fel ffoadur, ac yna pan oedd hi'n nosi dyma fi'n torri twll drwy'r wal. Wedyn, o flaen llygaid pawb, dyma fi'n rhoi'r pecyn ar fy nghefn ac yn cerdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu.
8
Y bore wedyn dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
9
“Ddyn, roedd pobl Israel, y criw o rebeliaid yna, wedi gofyn i ti, ‘Beth wyt ti'n wneud?’
10
Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae'r neges yma i Sedeceia, pennaeth pobl Jerwsalem, ac i holl bobl Israel sy'n dal yno.’
11
Esbonia dy fod ti'n ddarlun i ddysgu gwers iddyn nhw. Bydd yr hyn wnest ti yn digwydd iddyn nhw. Byddan nhw'n ffoaduriaid, ac yn cael eu cymryd yn gaethion.
12
Bydd hyd yn oed Sedeceia, y pennaeth, yn codi ei bac fin nos, yn mynd allan trwy dwll yn y wal ac yn gorchuddio ei wyneb am na fydd yn cael gweld y tir byth eto.
13
Ond bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto, ac yn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Ond fydd byth yn gweld y wlad honno lle bydd e'n marw.
14
Bydd ei weision a'i forynion, a'i filwyr i gyd yn cael eu chwalu i bob cyfeiriad, a bydd y gelyn yn mynd ar eu holau gyda'i gleddyf.
15
Pan fydda i wedi eu gyrru nhw ar chwâl drwy'r gwledydd paganaidd i gyd, byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD!
16
Ond bydda i'n gadael i griw bach ohonyn nhw fyw. Fydd cleddyf y gelyn, y newyn, a'r haint ddim yn lladd y rheiny. Yn y gwledydd lle byddan nhw'n mynd dw i eisiau iddyn nhw gyfaddef yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi eu gwneud. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”
17
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
18
“Cryna mewn ofn wrth fwyta dy fwyd, a dychryn wrth yfed dy ddŵr.
19
Yna rhanna'r neges yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am y bobl sy'n dal i fyw yn Israel a Jerwsalem: “Fyddan nhw ddim yn gallu bwyta ac yfed heb grynu mewn ofn a phoeni am eu bywydau. Mae'r wlad yn mynd i gael ei difetha, a byddan nhw'n colli popeth am iddyn nhw fod mor greulon.
20
Bydd y trefi a'r pentrefi lle mae pobl yn byw yn cael eu dinistrio, a bydd y tir yn cael ei adael yn ddiffaith. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’”
21
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
22
“Ddyn, mae yna ddywediad yn Israel, ‘Mae amser yn mynd heibio, a dydy'r proffwydoliaethau ddim wedi dod yn wir.’
23
Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi stop ar y math yna o siarad. Fydd pobl Israel ddim yn dweud hynny eto!’ Dywed wrthyn nhw, ‘Yn fuan iawn bydd popeth dw i wedi ei ddangos yn dod yn wir!
24
Fydd yna ddim mwy o weledigaethau ffals a darogan pethau deniadol yn Israel.
25
Fi, yr ARGLWYDD fydd yn siarad, a bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir. Fydd dim mwy o oedi. Bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir yn eich cyfnod chi rebeliaid anufudd.’ Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.”
26
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
27
“Ddyn, wyt ti wedi clywed beth mae pobl Israel yn ei ddweud? ‘Sôn am rywbryd yn bell yn y dyfodol mae e. Fydd y broffwydoliaeth ddim yn dod yn wir am amser hir iawn.’
28
Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Fydd dim mwy o oedi! Bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir!’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48