bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 44
Ezekiel 44
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 43
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 45 →
1
Yna aeth y dyn â fi yn ôl at giât allanol y cysegr sy'n wynebu'r dwyrain, ond roedd wedi ei chau.
2
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Bydd y giât yma yn aros wedi ei chau. Does neb yn cael mynd trwyddi. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi mynd trwyddi, felly rhaid iddi aros ar gau.
3
Dim ond pennaeth y wlad sydd i gael eistedd yn y fynedfa i fwyta o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yn mynd i mewn drwy'r cyntedd ochr ac yn mynd allan yr un ffordd.”
4
Yna aeth y dyn â fi i'r iard fewnol drwy'r giât sy'n wynebu'r gogledd o flaen y deml. Wrth i mi edrych, ron i'n gweld ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml a dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr.
5
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, dw i am i ti sylwi ar hyn. Edrych yn ofalus a gwrando'n astud ar bopeth dw i'n ei ddweud am reolau a deddfau teml yr ARGLWYDD. Sylwa'n fanwl ar bob mynedfa i'r deml a'r drysau allan o'r cysegr.
6
Dywed wrth y rebeliaid, pobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Mae'r holl bethau ffiaidd yma wedi mynd yn rhy bell!
7
Dych chi'n dod â phobl o'r tu allan i weithio yn y cysegr, paganiaid llwyr sy'n dangos dim parch ata i. Dych chi'n llygru'r deml drwy gynnig beth sydd piau fi — sef y brasder a'r gwaed — iddyn nhw. Dych chi wedi torri'r ymrwymiad rhyngon ni drwy wneud yr holl bethau ffiaidd yma.
8
Dych chi ddim wedi cadw'r rheolau wrth drin y pethau sanctaidd; dych chi wedi gadael i baganiaid edrych ar ôl y lle yma!
9
Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dydy'r paganiaid sy'n byw gyda'm pobl Israel ddim i gael mynd i mewn i'r cysegr eto.
10
“‘Bydd y Lefiaid wnaeth droi cefn arna i a mynd ar ôl eilunod, fel pawb arall yn Israel, yn cael eu dal yn gyfrifol am eu pechod.
11
Byddan nhw'n gweithio yn y cysegr ond dim ond fel dynion diogelwch. Nhw hefyd fydd yn lladd yr anifeiliaid sydd i'w llosgi, a'r aberthau, yn lle'r bobl eu hunain. Byddan nhw fel gweision i'r bobl.
12
Am eu bod nhw wedi helpu'r bobl i addoli eilunod a gwneud i bobl Israel faglu a pechu yn fy erbyn i, ar fy llw, bydd rhaid iddyn nhw wynebu canlyniadau eu pechod, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
13
Fyddan nhw ddim yn cael dod yn agos ata i i wasanaethu fel offeiriaid, na chyffwrdd dim byd dw i wedi ei gysegru. Bydd rhaid iddyn nhw fyw gyda'r cywilydd o fod wedi mynd trwy'r holl ddefodau ffiaidd yna.
14
Byddan nhw'n gweithio fel gofalwyr y deml ac yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw ynddi.
15
“‘Ond bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc, yn cael dod ata i a gwasanaethu fel offeiriaid. Roedden nhw wedi dal ati i wneud eu gwaith yn ffyddlon yn y deml pan oedd gweddill pobl Israel wedi troi cefn arna i a mynd i addoli eilunod. Byddan nhw'n dod i gyflwyno brasder a gwaed yr aberthau i mi.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
16
“‘Byddan nhw'n dod i mewn i'r cysegr i weini wrth fy mwrdd i a gwneud eu dyletswyddau.
17
“‘Pan fyddan nhw'n dod i mewn trwy giatiau'r iard fewnol rhaid iddyn nhw wisgo dillad o liain. Dŷn nhw ddim i wisgo gwlân o gwbl pan maen nhw'n gwasanaethu yn yr iard fewnol neu yn adeilad y Deml ei hun.
18
Rhaid iddyn nhw wisgo twrban o liain a dillad isaf o liain — dim byd fyddai'n gwneud iddyn nhw chwysu.
19
Ond pan fyddan nhw'n mynd allan at y bobl i'r iard allanol rhaid iddyn nhw newid eu dillad; cadw'r dillad roedden nhw'n gwasanaethu ynddyn nhw yn yr ystafelloedd sydd wedi eu neilltuo i'r pwrpas hwnnw, a gwisgo eu dillad bob dydd. Wedyn fyddan nhw ddim yn peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â'r dillad sanctaidd.
20
“‘Rhaid iddyn nhw dorri eu gwallt yn rheolaidd — peidio siafio eu pennau, na thyfu eu gwallt yn rhy hir.
21
Dydy offeiriad ddim i yfed gwin cyn mynd i mewn i'r iard fewnol.
22
Dŷn nhw ddim i briodi gwraig weddw na gwraig sydd wedi cael ysgariad, dim ond un o ferched Israel sy'n wyryf neu wraig weddw oedd yn briod ag offeiriad o'r blaen.
23
Byddan nhw'n dysgu'r bobl i wahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a dangos iddyn nhw sut i wahaniaethu rhwng beth sy'n aflan ac yn lân.
24
“‘Pan mae pobl yn mynd ag achos i'r llys, yr offeiriaid fydd yn barnu ac yn gwneud yn union beth dw i'n ddweud. Byddan nhw'n cadw'r deddfau a'r rheolau am y Gwyliau a'r dyddiau Saboth dw i wedi eu trefnu.
25
“‘Rhaid iddyn nhw beidio gwneud eu hunain yn aflan drwy fynd yn agos at gorff marw, ac eithrio corff tad, mam, mab, merch, brawd neu chwaer.
26
Pan fydd yr offeiriad yn lân eto bydd rhaid iddo ddisgwyl am saith diwrnod arall
27
cyn mynd i mewn i'r cysegr. A pan fydd yn mynd i'r iard fewnol i wasanaethu yn y cysegr eto, bydd rhaid iddo gyflwyno offrwm i lanhau o bechod,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
28
“‘Fydd gan offeiriaid ddim tir nag eiddo. Fi ydy eu hunig etifeddiaeth nhw.
29
Yr offrymau fydd eu bwyd nhw — sef yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai, a beth bynnag arall sy'n cael ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel.
30
A'r offeiriaid fydd piau ffrwythau cyntaf y cynhaeaf hefyd. Wrth i chi gyflwyno'r rhain, a'r offrwm cyntaf o does hefyd, bydd yr ARGLWYDD yn bendithio eich cartrefi.
31
Dydy'r offeiriaid ddim i fwyta unrhyw aderyn neu anifail sydd wedi marw ohono'i hun neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt.
← Chapter 43
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 45 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48