bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 5
Ezekiel 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 6 →
1
“Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd cleddyf miniog, a'i ddefnyddio fel rasel i siafio dy ben a dy farf. Wedyn cymer glorian i bwyso'r gwallt wyt ti wedi ei dorri, a'i rannu'n dri.
2
Rwyt i losgi traean ohono yn y ddinas pan fydd y cyfnod o warchae symbolaidd drosodd. Yna cymryd traean arall a'i dorri'n ddarnau mân gyda'r cleddyf o gwmpas y ddinas. Yna taflu'r traean sydd ar ôl i'r gwynt ei chwalu i bobman. Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'i wain, a mynd ar eu holau nhw!
3
Ond cymer rhyw ychydig bach o'r gwallt a'i gadw'n saff yn dy boced.
4
Byddi'n cymryd ychydig o hwnnw i'w losgi yn y tân. Bydd y tân hwnnw'n lledu ac yn dinistrio Israel i gyd.”
5
Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dyma Jerwsalem. Dw i wedi rhoi'r lle canolog iddi hi, gyda'r gwledydd eraill i gyd o'i chwmpas.
6
Ond mae pobl Jerwsalem wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i, a gwneud mwy o ddrwg nag unrhyw wlad arall!”
7
Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: “Dych chi'n achosi mwy o drafferth na'r gwledydd o'ch cwmpas chi i gyd! Dych chi wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i. Allwch chi ddim hyd yn oed cadw safonau'r gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!
8
Felly dw i'n mynd i ddelio gyda chi — ie, fi, yr ARGLWYDD. Dw i'n eich erbyn chi! Dw i'n mynd i'ch cosbi chi, a bydd y gwledydd i gyd yn cael gweld y peth.
9
Dw i'n mynd i wneud rhywbeth dw i erioed wedi ei wneud o'r blaen a fydda i byth yn ei wneud eto, am eich bod chi wedi gwneud pethau mor ffiaidd.
10
Bydd pethau'n mynd mor wael yn Jerwsalem, bydd rhieni'n bwyta eu plant a plant yn bwyta eu rhieni! Dw i'n mynd i'ch barnu chi, a bydd y bobl hynny fydd yn llwyddo i oroesi yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad.”
11
“Mor sicr a'r ffaith fy mod i'n fyw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, “Am eich bod chi wedi llygru fy lle sanctaidd i gyda'ch eilunod a'r holl bethau ffiaidd eraill dych chi wedi eu gwneud, dw i'n mynd i'ch torri chi i ffwrdd. Fydd yna ddim trugaredd o gwbl!
12
Bydd traean poblogaeth Jerwsalem yn marw yn y ddinas o haint a newyn. Bydd traean arall yn cael eu lladd yn y rhyfel. A bydd y traean sydd ar ôl yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad. Ond bydda i'n tynnu fy nghleddyf o'i wain ac yn mynd ar eu holau nhw!”
13
“Ar ôl hynny bydda i wedi tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! Byddan nhw'n gweld, wedyn, fy mod i wedi bod yn hollol o ddifri, ac wedi cael fy mrifo go iawn ganddyn nhw.
14
Fyddi di Jerwsalem yn ddim byd ond tomen o adfeilion.
15
Byddi'n destun sbort i bawb sy'n pasio heibio. Bydd y gwledydd sydd o dy gwmpas wrth eu boddau yn enllibio ac yn cega pan fydda i'n dy farnu di ac yn dy gosbi mor ffyrnig. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!
16
Bydda i'n saethu saethau creulon newyn atoch chi, a'ch dinistrio chi. Fydd gynnoch chi ddim bwyd ar ôl.
17
Bydd newyn ac anifeiliaid gwylltion yn lladd eich plant chi. Bydd afiechydon ofnadwy a thrais yn eich llethu chi. Bydda i'n anfon byddin i ymosod arnoch chi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!”
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48