bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 46
Ezekiel 46
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 45
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 47 →
1
“‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd y giât i'r iard fewnol sy'n wynebu'r dwyrain wedi ei chau ar y chwe diwrnod gwaith; ond bydd yn cael ei hagor ar y diwrnod Saboth ac ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis.
2
Bydd pennaeth y wlad yn dod i mewn trwy gyntedd allanol y giât. Bydd yn sefyll wrth ymyl pyst y giât tra bydd yr offeiriaid yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yn ymgrymu i addoli ar drothwy'r giât, ac yna'n mynd allan. Ond fydd y giât ddim yn cael ei chau nes iddi nosi.
3
Bydd y bobl gyffredin yn addoli tu allan i'r fynedfa honno ar y Sabothau ac ar Ŵyl y lleuad newydd bob mis.
4
“‘Dyma fydd pennaeth y wlad yn ei roi yn offrwm i'w losgi bob Saboth: chwe oen ac un hwrdd heb ddim byd o'i le arnyn nhw.
5
Bydd deg cilogram o rawn yn cael ei offrymu gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen. Mae hefyd i roi galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.
6
Ar Ŵyl y lleuad newydd mae i offrymu tarw ifanc, chwe oen ac un hwrdd — anifeiliaid sydd â dim byd o'i le arnyn nhw.
7
Offrwm o rawn hefyd — sef deg cilogram gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen, a galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.
8
Mae pennaeth y wlad i fynd at y giât drwy'r cyntedd allanol, a mynd allan yr un ffordd.
9
“‘Ond pan mae'r bobl gyffredin yn mynd i addoli'r ARGLWYDD ar y gwyliau crefyddol, mae pwy bynnag sy'n mynd i mewn trwy giât y gogledd i fynd allan drwy giât y de, a'r ffordd arall. Does neb i fynd allan yr un ffordd ag yr aeth i mewn; rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r giât gyferbyn.
10
Ar yr adegau yma bydd pennaeth y wlad yn mynd i mewn ac allan gyda gweddill y bobl.
11
“‘Adeg y gwyliau crefyddol dylid cyflwyno deg cilogram o rawn gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae rhywun eisiau gyda'r ŵyn. A galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.
12
Pan mae pennaeth y wlad yn cyflwyno offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, offrwm i'w losgi'n llwyr neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a hynny o'i ddewis ei hun, bydd y giât sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei hagor iddo. Bydd yn cyflwyno'r offrymau yn union fel mae'n gwneud ar y Saboth. Wedyn bydd yn mynd allan, a bydd y giât yn cael ei chau tu ôl iddo.
13
“‘Bob bore rhaid i oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno gael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.
14
Gyda'r oen rhaid cyflwyno offrwm o rawn bob bore — tua dau gilogram ac un rhan o dair o alwyn o olew olewydd i wlychu'r blawd. Fydd y rheol yma am yr offrwm o rawn byth yn newid.
15
Mae'r oen, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd i'w gyflwyno bob bore yn offrwm i'w losgi'n llwyr.
16
“‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy pennaeth y wlad yn rhoi tir i un o'i feibion ei etifeddu, bydd y tir hwnnw'n perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion am byth.
17
Ond os ydy e'n rhoi tir i un o'i weision, bydd yn perthyn i'r gwas hyd flwyddyn y rhyddhau; bryd hynny bydd y pennaeth yn cael y tir yn ôl. Dim ond y meibion sy'n cael cadw'r etifeddiaeth am byth.
18
Ddylai pennaeth y wlad ddim cymryd tir pobl oddi arnyn nhw a'u gorfodi nhw i adael eu cartrefi. Dim ond ei dir ei hun mae'n cael ei roi i'w feibion. Ddylai fy mhobl ddim cael eu gyrru oddi ar eu tir.’”
19
Wedyn aeth â fi trwy'r fynedfa sydd wrth ymyl y giât ac i mewn i ystafelloedd yr offeiriaid oedd yn wynebu'r gogledd. Dangosodd ystafell i mi oedd reit ar y pen draw ar yr ochr orllewinol.
20
“Dyma lle mae'r offeiriaid yn berwi cig yr offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod,” meddai. “Dyma hefyd lle maen nhw'n pobi'r offrwm o rawn. Maen nhw'n gwneud y cwbl yma er mwyn osgoi mynd â'r offrymau drwy'r iard allanol a peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â phethau sy'n sanctaidd.”
21
Wedyn aeth â fi allan i'r iard allanol a mynd â fi heibio pedair cornel yr iard. Roedd cwrt bach arall ym mhob cornel:
22
pedwar cwrt bach yr un maint, sef dau ddeg metr wrth un deg pump.
23
Roedd wal gerrig isel o gwmpas pob un ohonyn nhw, a nifer o leoedd tân ar gyfer coginio wrth waelod y wal.
24
“Dyma'r ceginau ble mae gweision y deml yn berwi'r cig o aberthau y bobl,” meddai wrtho i.
← Chapter 45
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 47 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48