bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 24
Ezekiel 24
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 25 →
1
Roedd hi'r nawfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r degfed mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
2
“Ddyn, dw i eisiau i ti ysgrifennu dyddiad heddiw i lawr. Heddiw ydy'r union ddiwrnod mae brenin Babilon wedi dechrau ymosod ar Jerwsalem.
3
Rhanna'r darlun yma gyda rebeliaid anufudd Israel: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Rho'r crochan ar y tân, a'i lenwi gyda dŵr.
4
Rho ddarnau o gig ynddo, y darnau gorau — y goes a'r ysgwydd. Ei lenwi gyda'r esgyrn da
5
o'r anifeiliaid gorau. Rho bentwr o goed tân oddi tano, a berwi'r cig a'i goginio a'r esgyrn yn dal ynddo.
6
“‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed — y crochan sy'n llawn budreddi — budreddi sy'n dal ynddo! Tynnwch y darnau allan bob yn un. Sdim ots am y drefn.
7
Mae'r gwaed dywalltwyd yn dal ynddi. Cafodd ei dywallt ar garreg i bawb ei weld, yn lle ei dywallt ar lawr i'r pridd ei lyncu.
8
Felly dw i'n mynd i dywallt ei gwaed hi ar garreg agored, er mwyn i bawb weld faint dw i wedi digio, ac mai fi sy'n dial arni hi!
9
“‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed! Dw i'n mynd i gasglu pentwr o goed;
10
digon o goed i wneud tanllwyth o dân! Coginio'r cig yn dda gyda digon o sbeisys. Wedyn gwagio'r crochan a llosgi'r esgyrn.
11
Yna rhoi'r crochan gwag yn ôl ar y tân golosg, a'i boethi nes bydd y copr yn gloywi'n chwilboeth, yr amhuredd o'i fewn yn toddi a'r budreddi yn cael ei losgi i ffwrdd.
12
Ond mae'r holl ymdrech i ddim pwrpas — mae'r budreddi yn dal yna! Rhaid ei losgi!
13
“‘Yr amhuredd ydy dy ymddygiad anweddus di. Dw i wedi ceisio dy lanhau di, ond i ddim pwrpas. Fyddi di ddim yn lân eto nes bydda i wedi tywallt fy llid i gyd arnat ti.
14
Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! Mae'r amser wedi dod i mi wneud rhywbeth! Does dim troi'n ôl. Fydda i'n dangos dim piti, nac yn teimlo'n sori am y peth. Dw i'n mynd i dy gosbi di am y cwbl rwyt ti wedi ei wneud, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr.’”
15
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
16
“Ddyn, dw i'n gwybod fod hyn yn mynd i fod yn ergyd galed, ond dw i'n mynd i gymryd y wraig wyt ti wedi gwirioni arni oddi arnat ti. Ond paid galaru amdani. Paid wylo. Paid colli dagrau.
17
Byddi'n drist, ond cadwa'r peth i ti dy hun. Paid galaru'n gyhoeddus. Rho dwrban ar dy ben a sandalau ar dy draed. Paid cuddio hanner isaf dy wyneb, na derbyn bwyd gan bobl sy'n dod atat ti i gydymdeimlo.”
18
Y noson honno buodd fy ngwraig farw. Ond y bore wedyn dyma fi'n gwneud beth ddywedwyd wrtho i, a mynd allan i bregethu.
19
A dyma'r bobl yn gofyn i mi, “Beth ydy ystyr hyn? Pam wyt fel yma?”
20
A dyma fi'n dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r neges yma i mi:
21
“Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml — ie, y deml sy'n gwneud i chi deimlo mor siŵr ohonoch chi'ch hunain, yr un dych chi wedi gwirioni'n lân arni. Bydd y plant gafodd eu gadael ar ôl yn Jwda yn cael eu lladd.
22
Rhaid i chi wneud yr un fath â fi. Peidio cuddio hanner isaf yr wyneb na derbyn bwyd gan bobl sydd eisiau cydymdeimlo.
23
Gwisgo twrban ar eich pennau a sandalau ar eich traed. Peidio galaru na wylo. Ond byddwch chi'n gwywo o'ch mewn, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.
24
Dw i'n defnyddio Eseciel fel darlun i ddysgu gwers i chi. Rhaid i chi wneud yr un fath. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Meistr, yr ARGLWYDD.’
25
“A ti, ddyn, dyma fydd yn digwydd i ti ar y diwrnod y bydda i'n cymryd y ddinas sy'n eu gwneud nhw mor hapus oddi arnyn nhw, a'r deml maen nhw a'u plant wedi gwirioni'n lân arni:
26
Ar y diwrnod hwnnw bydd ffoadur fydd wedi llwyddo i ddianc yn dod atat ti i ddweud beth ddigwyddodd.
27
A byddi di'n cael siarad yn rhydd eto. Byddi'n siarad gyda'r un wnaeth ddianc, a ddim yn gorfod cadw'n dawel ddim mwy. Dw i'n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel, iddyn nhw ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.”
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48