bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 9
Ezekiel 9
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 10 →
1
Wedyn dyma fi'n clywed Duw yn gweiddi'n uchel, “Dewch yma, chi sy'n mynd i ddinistrio'r ddinas! Dewch gyda'ch arfau i wneud eich gwaith!”
2
Gwelais chwe dyn yn dod o gyfeiriad y giât uchaf sy'n wynebu'r gogledd. Roedd gan bob un arf, sef pastwn, yn ei law. Roedd dyn arall gyda nhw, mewn gwisg o liain, ac roedd ganddo offer ysgrifennu wedi ei strapio am ei ganol. Dyma nhw'n dod i'r deml, ac yn sefyll wrth ymyl yr allor bres.
3
Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dyma'r ARGLWYDD yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario'r offer ysgrifennu,
4
a dweud wrtho: “Dos o gwmpas dinas Jerwsalem, a rho farc ar dalcen pawb sy'n galaru'n drist am yr holl bethau ffiaidd sy'n digwydd yma.”
5
Wedyn clywais e'n dweud wrth y lleill: “Ewch o gwmpas y ddinas ar ei ôl a lladd pawb sydd heb eu marcio. Does neb i ddianc! Byddwch yn hollol ddidrugaredd!
6
Lladdwch nhw i gyd — yr hen a'r ifanc, gwragedd a phlant! Ond peidiwch cyffwrdd unrhyw un sydd â marc ar ei dalcen. Dechreuwch yma yn y deml.” Felly dyma nhw'n dechrau gyda'r arweinwyr oedd yn sefyll o flaen y deml.
7
“Gwnewch y deml yn lle sydd wedi ei lygru, gyda chyrff marw ar lawr ym mhobman! Wedyn ewch allan a lladd pobl drwy'r ddinas i gyd.”
8
Pan aethon nhw allan i'r ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O, na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?”
9
A dyma fe'n ateb, “Mae pobl Israel a Jwda wedi pechu yn ofnadwy yn fy erbyn i. Mae cymaint o dywallt gwaed drwy'r wlad, ac anghyfiawnder yn y ddinas. Ac mae pobl yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn ar y wlad. Dydy e ddim yn gweld beth bynnag!’
10
Felly, dw i ddim yn teimlo'n sori drostyn nhw o gwbl. Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i dalu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud!”
11
Wedyn dyma'r dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario offer ysgrifennu yn cyrraedd yn ôl, a dweud, “Dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti.”
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48