bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 48
Ezekiel 48
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
1
“Dyma enwau llwythau Israel, a'r tir mae pob un i'w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
2
Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher.
3
Wedyn Nafftali, i'r de o Asher.
4
Wedyn Manasse.
5
Wedyn Effraim.
6
Wedyn Reuben.
7
Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
8
“Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â tiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol.
9
Bydd y tir sydd wedi ei gysegru a'i neilltuo i'r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a tair milltir a chwarter o led.
10
Bydd y tir yma sydd wedi ei gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid — wyth milltir o'r gogledd i'r de, a tair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol.
11
Hwn fydd y tir i'r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a'r Lefiaid.
12
Eu darn arbennig nhw o'r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o'r cwbl, gyda tir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw.
13
“Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda'i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led.
14
Dydy'r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na'i gyfnewid, na'i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi ei gysegru a'i neilltuo'n arbennig i'r ARGLWYDD.
15
“Bydd y gweddill — milltir a hanner o led ac wyth milltir o hyd — yn dir cyhoeddus i adeiladu tai arno neu ei gadw'n dir agored. Ond bydd y ddinas yn ei ganol.
16
Bydd y ddinas yn mesur milltir a hanner bob ffordd.
17
A bydd tir agored rhyw gant tri deg metr o led o gwmpas y ddinas i gyd.
18
Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i'r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a tair milltir a hanner i'r gorllewin.
19
Bydd y tir yma'n cael ei ffermio gan bobl o'r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas.
20
Bydd y darn tir i gyd (y tiroedd cysegredig a tiroedd y ddinas gyda'i gilydd) yn wyth milltir i bob cyfeiriad.
21
“Pennaeth y wlad fydd piau'r gweddill (sef beth sydd ar ôl bob ochr i'r tir cysegredig a thir amaeth y ddinas.) Bydd yn ymestyn o ymylon yr wyth milltir o dir cysegredig, yr holl ffordd i'r ffin ddwyreiniol un ochr ac i Fôr y Canoldir yr ochr arall. A bydd y tir cysegredig a'r deml ei hun yn y canol.
22
Bydd tir y Lefiaid yn y canol hefyd, a tir amaeth y ddinas, gyda tir pennaeth y wlad bob ochr iddo. Bydd tir y pennaeth yn ymestyn o ffin Jwda i ffin Benjamin.
23
“Wedyn tiroedd gweddill y llwythau: Tir Benjamin nesaf, yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
24
Wedyn tir Simeon.
25
Wedyn Issachar.
26
Wedyn Sabulon.
27
Ac yn olaf Gad.
28
A bydd tir Gad yn dilyn y ffin ddeheuol, ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.
29
Dyma'r tir sydd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
30
Dyma ddisgrifiad o'r ddinas o'r tu allan: Ar yr ochr ogleddol, sydd filltir a hanner o hyd,
31
bydd tair giât wedi eu henwi ar ôl llwythau Israel — giât Reuben, giât Jwda, a giât Lefi.
32
Ar yr ochr ddwyreiniol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât — giât Joseff, giât Benjamin, a giât Dan.
33
Ar yr ochr ddeheuol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât — giât Simeon, giât Issachar, a giât Sabulon.
34
Ac ar yr ochr orllewinol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât — giât Gad, giât Asher, a giât Nafftali.
35
Mae'r ddinas yn mesur chwe milltir o'i chwmpas i gyd, ac enw'r ddinas o hynny ymlaen fydd Iahwe-Shamma: “Mae'r ARGLWYDD yna.”
← Chapter 47
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48