bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 13
Ezekiel 13
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 14 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2
“Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo yn erbyn y proffwydi hynny o Israel sy'n cyhoeddi ffrwyth eu dychymyg eu hunain a'i alw'n ‛broffwydoliaeth‛. Dywed wrthyn nhw,
3
‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Gwae'r proffwydi yna sy'n dychmygu pethau a ddim yn gweld beth dw i'n ei ddangos sy'n digwydd go iawn!
4
Israel, mae dy broffwydi fel siacaliaid yng nghanol adfeilion!
5
Dŷn nhw ddim wedi mynd ati i drwsio'r bylchau yn y wal, er mwyn i bobl Israel allu sefyll yn gadarn ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.
6
Dŷn nhw'n rhannu dim byd ond ffantasi a chelwydd! “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” medden nhw, ond wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu hanfon nhw! Ac maen nhw'n disgwyl i'w geiriau ddod yn wir!
7
Ond ffantasi pur a chelwydd ydy honni, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” pan dw i ddim wedi dweud y fath beth.
8
“‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi, achos dych chi wedi bod yn siarad nonsens ac yn cyhoeddi celwydd.
9
Dw i'n mynd i daro'r proffwydi hynny sydd ond yn dychmygu pethau a dweud celwydd. Fyddan nhw ddim yn cael bod ar y cyngor sy'n arwain fy mhobl, na hyd yn oed yn cael eu cyfri'n rhan o bobl Israel, nac yn cael mynd i mewn i wlad Israel eto.’ Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
10
“Ydyn, maen nhw wedi camarwain pobl. Maen nhw wedi dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad ydy pethau'n iawn o gwbl. Mae fel adeiladu wal sych sydd braidd yn simsan, a phobl yn meddwl y bydd peintio drosti yn ei gwneud hi'n saffach!
11
Dywed wrth y rhai sy'n peintio: ‘Pan ddaw glaw trwm a chenllysg a gwynt stormus,
12
a'r wal wedi syrthio, bydd pobl yn gofyn, “Beth ddigwyddodd i'ch gwaith chi?”
13
“‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i anfon gwynt stormus, glaw trwm, a chenllysg fydd yn achosi difrod ofnadwy.
14
Bydda i'n chwalu'r wal wnaethoch chi ei pheintio. Fydd dim ohoni'n sefyll. A pan fydd hi'n syrthio, byddwch chithau'n cael eich dinistrio gyda hi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
15
Dw i'n mynd i dywallt hynny o ddigofaint sydd gen i ar y wal, ac ar y rhai fuodd yn ei pheintio. Ac wedyn bydda i'n dweud, “Dyna ni, mae'r wal wedi mynd, a'r peintwyr hefyd —
16
sef y proffwydi yna yn Israel oedd yn proffwydo am Jerwsalem ac yn dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad oedd pethau'n iawn o gwbl.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.’
17
“Ddyn, dw i eisiau i ti droi at y merched hynny sy'n proffwydo dim byd ond ffrwyth eu dychymyg eu hunain. Proffwyda yn eu herbyn nhw,
18
a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae'r merched yna sy'n gwnïo breichledau hud i'w gwisgo ar yr arddwrn, a sgarffiau hud i'w gwisgo ar y pen. Eu hunig fwriad ydy trapio pobl! Ydych chi'n meddwl y cewch chi drapio fy mhobl i ac wedyn llwyddo i ddianc eich hunain?
19
Dych chi wedi gwneud i bobl droi cefn arna i am lond dwrn o haidd ac ychydig dameidiau o fara. Drwy ddweud celwydd wrth fy mhobl, sy'n mwynhau gwrando ar gelwydd, dych chi wedi lladd pobl ddylai fod wedi cael byw, a chynnig bywyd i'r rhai ddylai farw!
20
“‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Deallwch chi fy mod i yn erbyn y breichledau hud dych chi'n eu defnyddio i drapio pobl fel dal adar. Bydda i'n eu rhwygo nhw oddi ar eich breichiau chi, a gollwng y bobl dych chi'n ceisio eu dal yn rhydd.
21
Bydda i'n tynnu'r sgarffiau hud oddi ar eich pennau chi, ac yn achub fy mhobl o'ch gafael chi. Dw i ddim yn mynd i adael i chi ddal gafael ynddyn nhw ddim mwy. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
22
“‘Dych chi wedi lladd ysbryd pobl dda gyda'ch celwyddau (pobl fyddwn i byth eisiau gwneud drwg iddyn nhw). A dych chi wedi annog pobl ddrwg i ddal ati i wneud drwg, yn lle troi ac achub eu bywydau.
23
Ond gewch chi ddim cario mlaen gyda'ch ffantasi a'ch dewino! Dw i'n mynd i achub fy mhobl o'ch gafael chi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48