bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 32
Ezekiel 32
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 33 →
1
Roedd hi ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r deuddegfed mis, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
2
“Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho: ‘Roeddet ti'n gweld dy hun fel llew yng nghanol y gwledydd, ond ti fwy fel draig yn y môr. Ti'n sblasio yn y ffosydd, ac yn corddi'r dŵr gyda dy draed a baeddu'r ffosydd.’
3
Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydda i'n taflu fy rhwyd drosot ti (bydd tyrfa enfawr o bobl yno), ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda'm llusgrwyd.
4
Wedyn bydda i'n dy daflu di ar dir sych, a bydd yr adar yn dod ac yn byw arnat ti, a'r anifeiliaid gwylltion yn llenwi eu hunain arnat.
5
Bydd dy gig ar y mynyddoedd a'r gweddillion yn y dyffrynnoedd.
6
Bydda i'n socian y tir gyda dy waed di, yr holl ffordd i ben y mynyddoedd, a bydd dy waed yn llenwi'r ceunentydd i gyd.
7
Pan fydda i'n dy ddiffodd bydda i'n rhoi gorchudd ar yr awyr, ac yn diffodd y sêr i gyd. Bydd cwmwl yn cuddio'r haul, ac yn rhwystro'r lleuad rhag llewyrchu.
8
Bydd pob golau yn yr awyr yn diffodd, a bydd tywyllwch drwy'r wlad i gyd,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
9
“Bydd pobloedd lawer wedi cynhyrfu pan fydd y cenhedloedd yn clywed am dy ddinistr. Hyd yn oed gwledydd dwyt ti erioed wedi clywed amdanyn nhw.
10
Bydd pobl mewn sioc o glywed beth fydd wedi digwydd i ti. Bydd brenhinoedd wedi dychryn am eu bywydau pan fydda i'n chwifio fy nghleddyf o'u blaenau nhw. Ar y diwrnod y byddi di'n syrthio byddan nhw'n crynu trwyddynt yn ofni am eu bywydau eu hunain.”
11
Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd cleddyf brenin Babilon yn ymosod arnat ti.
12
Bydda i'n gwneud i gleddyfau milwyr cryfion ladd dy fyddin enfawr di — nhw ydy'r milwyr mwyaf creulon sydd. Byddan nhw'n torri balchder yr Aifft, a bydd ei byddin enfawr yn cael ei dinistrio.
13
Bydd yr anifeiliaid sy'n pori ar lan y dŵr yn cael eu lladd i gyd. Fydd y dŵr ddim yn cael ei faeddu eto gan draed dynol na charnau anifeiliaid.
14
Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir, a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew. “Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
15
Pan fydda i'n troi gwlad yr Aifft yn anialwch ac yn dinistrio popeth sydd ynddi; Pan fydda i'n lladd pawb sy'n byw yno, byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD.
16
“Dyma'r gân angladdol fyddan nhw'n ei chanu. Bydd merched y gwledydd i gyd yn ei chanu ac yn galaru am yr Aifft a'i byddin enfawr.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
17
Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pymthegfed diwrnod o'r un mis, dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD.
18
“Ddyn, uda dros fyddin yr Aifft. ‘I lawr â hi! I lawr â hi at drefi a dinasoedd y gwledydd pwerus eraill sydd yn nyfnder y ddaear. I lawr â hi gyda phawb sy'n mynd i'r Pwll!’
19
Wyt ti'n harddach na'r gwledydd eraill? Na! Dos i lawr i orwedd gyda'r gwledydd paganaidd.
20
Byddi'n gorwedd gyda phawb arall sydd wedi eu lladd mewn rhyfel! Mae'r cleddyf yn barod i'w taro nhw; bydd yr Aifft a'i byddin yn cael eu llusgo i ffwrdd.
21
Bydd arweinwyr grymus y gwledydd yn gwawdio'r Aifft a'i chefnogwyr: ‘Dyma nhw wedi cyrraedd, i orwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi eu lladd gan y cleddyf.’
22
“Mae brenin Asyria yna, a beddau ei fyddin enfawr ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf.
23
Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd!
24
“Mae Elam yna, a beddau ei byddin enfawr hithau ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf. Hwythau'n baganiaid wedi mynd i lawr i ddyfnder y ddaear, ond ar un adeg yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!
25
Mae hithau'n gorffwys gyda'r meirw, a beddau ei byddin enfawr ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!
26
“Mae Meshech a Twbal yna, a beddau eu byddinoedd hwythau ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd.
27
Dŷn nhw ddim gydag arwyr dewr y gorffennol, wedi eu claddu'n anrhydeddus gyda'i harfau — gyda'r cleddyf wedi ei osod dan y pen a'r darian yn gorwedd ar yr esgyrn. Roedden nhw hefyd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd.
28
A byddi dithau, y Pharo, yn gorwedd wedi dy dorri gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf!
29
“Mae Edom yna, gyda'i brenhinoedd a'i phenaethiaid i gyd. Er eu bod mor gryf ar un adeg, maen nhw'n gorwedd gyda'r rhai sydd wedi eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi mynd i lawr i'r Pwll.
30
“Mae arweinwyr gwledydd y gogledd yno i gyd, a'r Sidoniaid. Y rhai oedd yn codi dychryn bellach yn gorwedd mewn cywilydd gyda'r meirw — gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll.
31
“Bydd y Pharo yn eu gweld, ac yn cael ei gysuro mai nid ei fyddin enfawr e oedd yr unig un i gael ei lladd gan y cleddyf,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
32
“Er fy mod wedi eu defnyddio nhw i godi dychryn ar bawb drwy'r byd, bydd y Pharo a'i fyddin yn gorwedd gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48