bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 17
Ezekiel 17
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 18 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2
“Ddyn, dyma bos i ti ei rannu gyda phobl Israel. Stori iddyn nhw.
3
Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Eryr mawr a'i adenydd enfawr a'i blu hirion ar eu blaenau. Daeth eryr a'i wisg amryliw draw i Libanus. Pigo coron y goeden gedrwydd
4
a thorri ei brigyn uchaf. Ei gario i ffwrdd i wlad masnachwyr, a'i blannu yn ninas y farchnad.
5
Cymerodd un o hadau'r wlad a'i blannu mewn pridd da, yn sbrigyn wedi ei osod ar lan y dŵr fel coeden helygen.
6
Blagurodd, a throi yn winwydden yn tyfu a lledu'n isel. Roedd ei gwreiddiau oddi tanodd a'i changhennau'n ymestyn at yr eryr. Tyfodd ei changhennau a daeth dail ar ei brigau.
7
Ond roedd eryr mawr arall, gydag adenydd enfawr a thrwch o blu hardd. A dyma'r winwydden yn troi ei gwreiddiau at hwnnw, ac yn ymestyn ei changhennau ato i gael ei dyfrio ganddo.
8
Roedd wedi ei phlannu mewn pridd da ar lan digonedd o ddŵr, i'w changhennau ledu ac i ffrwyth dyfu arni, yn winwydden hardd.’
9
Ond dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Fydd hi'n llwyddo? Na — bydd yr eryr yn ei chodi o'r gwraidd, yn tynnu ei ffrwyth oddi arni, a'i gadael i bydru. Bydd ei dail ir yn gwywo. Fydd dim angen byddin fawr gref i dynnu ei gwreiddiau o'r pridd.
10
Ar ôl ei thrawsblannu, fydd hi'n llwyddo? Na — bydd gwynt poeth y dwyrain yn chwythu a bydd hi'n crino'n llwyr. Bydd hi'n gwywo yn y tir lle tyfodd!’”
11
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
12
“Dywed wrth rebeliaid anufudd Israel: ‘Does gynnoch chi ddim syniad am beth dw i'n sôn, nac oes?’ Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r ystyr. Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd brenin Jwda a'i swyddogion yn garcharorion i Babilon.
13
Wedyn dyma frenin Babilon yn gwneud cytundeb gydag un o deulu brenhinol Jwda, a'i gael i addo ar lw y byddai'n ufudd iddo. A gwnaeth yr un peth gyda rhai o bobl fawr y wlad.
14
Roedd eisiau cadw'r wlad yn wan, a gwneud yn siŵr na fyddai hi'n gwrthryfela yn ei erbyn. Os oedd hi am gadw ei hunaniaeth, byddai'n rhaid iddi gadw amodau'r cytundeb.
15
Ond dyma'r un wnaeth y cytundeb yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon drwy anfon ei lysgenhadon i'r Aifft i ofyn am geffylau rhyfel a byddin fawr. Fydd e'n llwyddo? Ydy e'n mynd i allu torri'r cytundeb ac osgoi cael ei gosbi?
16
Na, bydd e'n cael ei ladd. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydd e'n marw yn Babilon, gwlad y brenin wnaeth y cytundeb gydag e yn y lle cyntaf a gadael iddo lywodraethu.
17
Fydd y Pharo gyda'i fyddin fawr a'i holl rym milwrol ddim help o gwbl pan fydd Babilon yn ymosod ar Jerwsalem eto ac yn codi rampiau a thyrau gwarchae yn ei herbyn. Bydd lot fawr o bobl yn cael eu lladd.
18
Roedd e wedi gwneud cytundeb ar lw ac yna ei dorri; addo bod yn ufudd ac yna torri ei air. Gwylia di, fydd e ddim yn dianc!’
19
“Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dw i'n mynd i'w gosbi e am dorri ei ymrwymiad i mi a'r cytundeb wnaeth e o'm blaen i.
20
Bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto a mynd ag e'n gaeth i Babilon, a bydda i'n ei farnu yno am iddo fy mradychu i.
21
Bydd ei filwyr gorau yn cael eu lladd yn y rhyfel, a'r gweddill yn cael eu gwasgaru i bob cyfeiriad. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dweud beth sydd i ddod.’
22
“Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i gymryd sbrigyn o ben uchaf y goeden gedrwydd; bydda i'n ei bigo o goron y goeden, a'i blannu ar ben mynydd uchel.
23
Bydda i'n ei blannu ar fynydd uchaf Israel. Bydd yn tyfu'n goeden gedrwydd hardd ffrwythlon, a bydd adar o bob math yn nythu ynddi ac yn cysgodi dan ei changhennau.
24
Bydd pob coeden yng nghefn gwlad yn cydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Fi sy'n gwneud y goeden fawr yn fach a'r goeden fach yn fawr. Fi sy'n gwneud i goeden ir grino, ac i goeden farw flaguro eto. Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’”
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48