bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 45
Ezekiel 45
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 46 →
1
“‘Pan fyddwch chi'n rhannu'r tir rhwng llwythau Israel, rhaid i chi roi cyfran ohono i'r ARGLWYDD — darn o dir wedi ei gysegru'n arbennig. Mae i fod dros wyth milltir o hyd a dros chwe milltir a hanner o led. Bydd yr ardal yna i gyd yn dir cysegredig.
2
(Mae darn o dir 260 metr wrth 260 metr i'w ddefnyddio ar gyfer y Deml, a llain o dir agored gwag o'i gwmpas sy'n 26 metr o led.)
3
Mesurwch ddarn o dir dros wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led. Bydd y cysegr a'r Lle Mwyaf Sanctaidd wedi ei osod yn ei ganol.
4
Bydd yn dir wedi ei gysegru'n arbennig. Tir i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn y cysegr ac sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e. Dyna ble bydd yr offeiriaid yn byw, a dyna hefyd ble bydd y Deml.
5
Wedyn bydd darn o dir wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led ar gyfer pentrefi y Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml.
6
“‘Wrth ochr y tir cysegredig yna, bydd darn o dir wyth milltir o hyd a dros filltir a hanner o led, lle gall unrhyw un o bobl Israel fyw.
7
“‘Wedyn bydd dau ddarn o dir ar gyfer pennaeth y wlad — un i'r gorllewin o'r tir cysegredig, a'r llall i'r dwyrain. Bydd ei ffiniau yn gyfochrog â ffiniau tiroedd y llwythau.
8
Dyna'i diroedd e yn Israel. Fydd arweinwyr y wlad ddim yn gormesu fy mhobl o hyn ymlaen. Byddan nhw'n parchu ffiniau'r tir sydd wedi ei roi i bob un o lwythau Israel.
9
“‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Chi arweinwyr Israel, stopiwch yr holl drais a'r gormes yma! Gwnewch beth sy'n iawn ac yn deg. Stopiwch daflu pobl allan o'u cartrefi.
10
Defnyddiwch glorian sy'n gywir, a mesurau sych a hylifol cywir.
11
Dylai pob mesur sych a hylifol fod yr un fath, ac yn gywir. Rhaid cael mesur safonol, a rhaid i bob mesur arall fod yn gyson â'r safon hwnnw.
12
A rhaid i werth arian fod yn gywir hefyd. Pum darn arian yn bump go iawn, a deg yn ddeg. Rhaid bod hanner cant o ddarnau arian mewn mina.
13
“‘Dyma'r offrwm sydd i'w gyflwyno: un rhan o chwe deg o'r ŷd a'r haidd;
14
un rhan o gant o'r olew olewydd;
15
ac un ddafad o bob praidd o ddau gant sy'n pori ar dir Israel. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrwm o rawn, yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
16
“Bydd pawb drwy'r wlad i gyd yn gyfrifol i ddod â chyflwyno'r offrymau yma i bennaeth y wlad.
17
Bydd y pennaeth wedyn yn gyfrifol am yr offrymau i'w llosgi, yr offrymau o rawn a'r offrymau o ddiod ar gyfer y Gwyliau, yr offrymau misol a'r Sabothau — pob un o wyliau crefyddol Israel. Fe fydd yn cyflwyno'r aberthau dros bechod, yr offrymau o rawn, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw.
18
“‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rhaid aberthu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno i wneud y cysegr yn lân.
19
Bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr offrwm i lanhau o bechod a'i roi ar gilbyst drws y deml, ar bedair cornel sil yr allor ac ar byst y giât i'r iard fewnol.
20
Rhaid gwneud yr un peth ar y seithfed o'r mis, ar ran unrhyw un sydd wedi pechu'n ddamweiniol neu heb wybod am y peth. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud y deml yn lân.
21
“‘Mae Gŵyl y Pasg i'w dathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, a rhaid bwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod.
22
Ar y diwrnod hwnnw mae pennaeth y wlad i ddarparu tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod ar ei ran ei hun a'r bobl.
23
Yna am saith diwrnod yr Ŵyl mae i gyflwyno anifeiliaid yn offrwm i gael eu llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD: saith tarw ifanc a saith hwrdd bob dydd, pob un yn anifail â dim byd o'i le arno. Hefyd un bwch gafr bob dydd yn offrwm i lanhau o bechod.
24
Bydd e hefyd yn rhoi deg cilogram o rawn a pedair litr o olew olewydd gyda pob tarw a phob hwrdd.
25
A bydd yn darparu'r un offrymau ar saith diwrnod Gŵyl y Pebyll sy'n dechrau ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis — sef yr offrwm i lanhau o bechod, yr offrymau i'w llosgi, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd.
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 46 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48