bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezekiel 21
Ezekiel 21
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 22 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2
“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Jerwsalem, a pregethu yn erbyn ei lleoedd cysegredig hi. Proffwyda yn erbyn Israel,
3
a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'r wain a lladd pawb, y da a'r drwg!
4
Ydw, dw i'n mynd i ladd y da a'r drwg. Bydda i'n tynnu fy nghleddyf ac yn taro pawb, o'r de i'r gogledd!
5
Bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi tynnu'r cleddyf, a fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r wain!’
6
“Felly griddfan di, ddyn! Griddfan yn chwerw o'u blaenau a syrthio ar lawr yn dy ddyblau fel petaet ti mewn poen.
7
Pan fyddan nhw'n gofyn i ti, ‘Beth sy'n bod?’ dywed wrthyn nhw, ‘Mae newyddion dychrynllyd ar ei ffordd. Bydd pawb wedi dychryn am eu bywydau, a ddim yn gwybod beth i'w wneud. Byddan nhw'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ac yn gwlychu eu hunain mewn ofn.’”
8
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
9
“Ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Cleddyf! Cleddyf! Wedi ei hogi a'i sgleinio.
10
Wedi ei hogi i ladd, ac yn fflachio fel mellten. Pwy sy'n chwerthin nawr? Mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthod a phob ffon debyg iddi!
11
Mae'r cleddyf wedi ei rhoi i'w sgleinio a'i dal yng nghledr y llaw. Mae wedi ei hogi a'i glanhau i'w rhoi yn llaw y lladdwr.
12
Gwaedda, ddyn, galara! Mae'r cleddyf i daro fy mhobl, ac arweinwyr Israel i gyd! Bydd y galar yn llethol!
13
Ydy, mae'r profi'n dod! Pa obaith sydd pan mae teyrnwialen Jwda wedi ei gwrthod?’ meddai'r ARGLWYDD.
14
Dw i eisiau i ti broffwydo, ddyn, ac ysgwyd dy ddwrn arnyn nhw. Dywed, ‘Bydd y cleddyf yn taro ddwywaith … na, tair! Cleddyf i ladd! Bydd cleddyf y lladdfa fawr yn closio o bob cyfeiriad!
15
Bydd pawb yn wan gan ddychryn a nifer fawr yn baglu a syrthio. Mae cleddyf y lladdfa fawr yn disgwyl wrth y giatiau i gyd. O! Mae'n fflachio fel mellten wrth gael ei chwifio i ladd!
16
Ergyd i'r dde, a slaes i'r chwith! Mae'n taro â'i min ble bynnag y myn.
17
Byddaf finnau'n ysgwyd fy nwrn a dangos faint dw i wedi gwylltio. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’”
18
Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
19
“Ddyn, dw i eisiau i ti wneud map a marcio dwy ffordd y gallai cleddyf brenin Babilon ddod. Mae'r ddwy ffordd i ddechrau o'r un lle. Yna ble maen nhw'n fforchio dw i eisiau i ti godi arwydd ffordd yn pwyntio at y ddinas —
20
Marcia ddwy ffordd i'r cleddyf fynd — un i Rabba, dinas pobl Ammon, a'r llall i Jerwsalem, y gaer yn Jwda.
21
Mae brenin Babilon wedi stopio ble mae'r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae'n aros i ddewino: mae'n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi eu haberthu.
22
Mae'n agor ei law dde, a dyna'r arweiniad — i droi am Jerwsalem. Rhaid paratoi hyrddod rhyfel i fwrw'r giatiau, bloeddio'r gorchymyn i ymosod, a chodi rampiau a thyrau gwarchae.
23
Bydd pobl Jerwsalem yn meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad, am eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Babilon. Ond mae'n dangos eu bod nhw'n euog, a byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaeth.
24
“Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi ei gwneud hi'n gwbl amlwg eich bod chi'n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o'ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth.
25
“‘A tithau, Sedeceia, dywysog llwgr a drwg Israel — mae dy ddiwrnod wedi dod. Ie, dydd barn!
26
Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tynna dy goron oddi ar dy ben! Mae pethau'n mynd i newid! Codi'r rhai sy'n ‛neb‛, a thorri crib y balch!
27
Adfeilion! Adfeilion! Bydd y lle'n adfeilion llwyr! Fydd dim yn newid nes i'r un dw i wedi rhoi iddo'r hawl i farnu ddod. Bydda i'n ei rhoi iddo fe.’”
28
“Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon: Cleddyf! Cleddyf, yn cael ei chwifio i ladd. Wedi ei sgleinio i ddifa, ac yn fflachio fel mellten.
29
“‘Mae gweledigaethau dy broffwydi'n ffug, a'r arweiniad trwy ddewino yn gelwydd! Mae'r cleddyf ar yddfau pobl lwgr a drwg. Ydy, mae eich diwrnod wedi dod. Ie, dydd barn!
30
“‘Fydd y cleddyf ddim yn ôl yn ei wain nes i mi eich barnu chi yn y wlad lle cawsoch eich geni.
31
Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi, a'ch ffrwydro gyda tân fy ffyrnigrwydd. Bydda i'n eich rhoi chi yn nwylo dynion gwyllt sy'n gwybod sut i ddinistrio.
32
Byddwch yn danwydd i'r tân. Bydd eich gwaed wedi ei dywallt ar y tir. Fydd neb yn eich cofio. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’”
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48